Datganiad
Ymgeisydd: Rydw i yn aelod o Grwp Digon sydd yn Sefydliad Partner yn y sesiwn
nesaf o'r senedd. Roeddwn yn frwd i Gynrychioli y grwp er mwyn sicrhau bod barn
fy nghymeiriaid yn enwedig pobl ifanc LHDTC+ yn cael sylw teg mewn materion
sydd o bwys yng Nghymru.
Mae Digon yn
cyfarfod yn wythnosol. Mae hyn yn rhoi fforwm i mi allu trafod yn hawdd gyda
aelodau'r grwp yn ogystal gallai siarad gyda gweddill yr ysgol drwy wasanaethau
a sesiynnau mentora er mwyn sicrhau fy mod yn eu cynrychioli nhw i'r gorau o'm
gallu.
Rydw i yn
gyfathrebwr ac yn wrandawr ardderchog. Mae hyn yn dod o'm hyfforddiant ym maes
Drama a cherddoriaeth. Drwy yr astudiaethau yma rydw i wedi dysgu'r hunan
ddisgyblaeth sydd ei angen er mwyn sicrhau fy mod yn gallu cyflwyno syniadau
mewn modd sy'n addas i'r gynulleidfa benodol, boed hynny yn blant ysgolion
cynradd neu'n oedolion. Rydw i'n hyderus
yn siarad ar nifer o bynciau sy'n effeithio ar y gymuned LHDTC+ ac yn ddiweddar
wedi gwneud cyflwyniad ar effaith HIV/AIDS yn ystod yr 80au a'r 90au hyd
heddiw. Rydw i'n edrych ymlaen i ddechrau ar y gwaith!