Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Finlay Bertram

Finlay Bertram

Dwyrain Casnewydd

Roedd Finlay yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Finlay Bertram

Bywgraffiad

Roedd Finlay yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Hawliau cyfartal
  • Addysg rhyw
  • Iechyd meddwl

Rydw i'n credu y byddai bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn gyfle anhygoel i mi dalu yn ôl i fy nghymuned. Byddai'n caniatáu imi fod y newid yr hoffwn i a llawer o bobl ifanc eraill ei weld yng Nghymru. Byddwn i'n dweud fy mod yn llawn safbwyntiau ar bynciau megis iechyd meddwl, hawliau cyfartal (yn enwedig yn ymwneud â hiliaeth, rhywiaeth a homoffobia), ac addysg/iechyd rhywiol. Er mwyn sicrhau bod llais pob person ifanc yn cael ei glywed a'i gynrychioli, mi fydda i'n cynnal trafodaethau yn fy ysgol, clwb athletau a sefydliad gwirfoddoli lle bydda i'n gofyn i'm cyfoedion am unrhyw newidiadau y bydden nhw'n hoffi eu gweld yng Nghymru.

Mae croeso i bobl ifanc hefyd godi unrhyw faterion gyda mi drwy anfon neges ar fy nghyfrif facebook neu twitter. Rydw i'n credu y dylai pobl bleidleisio drosta i oherwydd ni waeth beth yw fy marn i ar safbwyntiau pobl, mi fydda i'n parchu eu safbwynt ac yn ystyried eu dadl serch hynny. Rydw i'n credu bod gen i y sgiliau pobl a'r sgiliau cyfathrebu, ynghyd â'r wybodaeth gymdeithasol i ganiatáu imi ragori yn y rôl hon. Os caf fy ethol, mi fydda i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu i droi Cymru yn lle mwy cyfartal ac agored.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Finlay Bertram