Roedd Fiona yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma eu datganiad
pan oeddent yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Cydraddoldeb
- i bawb
- System
Addysg / Ysgol
- Tlodi Plant a Phobl Ifanc
Datganiad yr
Ymgeisydd: Helo i bob merch, bachgen, pobl anneuaidd
a phawb yn y canol. Fy enw i yw Fiona ac rwy'n byw
yng Nghaerdydd, rwy'n mynd i Ysgol Uwchradd Llanisien ac yn defnyddio’r rhagenw
hi.
Mae’r rheswm yr hoffwn
eich cynrychioli chi yn Senedd Ieuenctid Cymru yn syml, i wneud newid. Rwyf am
sicrhau bod eich syniadau a'ch credoau yn cael eu clywed fel y gallwn newid y
wlad hon er gwell. Byddai fy hyder yn fy ngalluogi i wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod beth rydych CHI yn ei
gredu.
Mae cydraddoldeb
yn hanfodol, i bawb. Waeth beth yw eich hunaniaeth rhyw, cyfeiriadedd
rhywiol/rhamantaidd, hil neu grefydd. Mae pawb yn haeddu'r un hawliau, fel
aelod o'r gymuned LHDTC+ rwy'n teimlo'n gryf iawn am hyn.
Nid yw'r System
Addysg yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y dyfodol, mae'n paratoi ni ar gyfer y
gorffennol. Wedi'r cyfan, cafodd ei chreu i hyfforddi myfyrwyr i weithio mewn
ffatrïoedd. Wyddech chi bod gwaith cartref wedi’i greu fel cosb? Yn 2020,
dewisais yr angen i ddiwygio’r system addysg fel fy mhwnc trafod. Rwy’n credu’n
gryf bod angen rhoi sylw i’r mater hwn.
Pa bynnag
faterion sy'n eich poeni chi, byddaf yn sicrhau eu bod yn cael sylw os caf fy
ethol.
Rwy'n
gwerthfawrogi eich bod yn darllen hwn, diolch.