Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Fiona Garbutt

Fiona Garbutt

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Girlguiding Cymru

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cydraddoldeb - i bawb
  • System Addysg / Ysgol
  • Tlodi Plant a Phobl Ifanc

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Fiona Garbutt

Bywgraffiad

Datganiad yr Ymgeisydd: Helo i bob merch, bachgen, pobl anneuaidd a phawb yn y canol. Fy enw i yw Fiona ac rwy'n byw yng Nghaerdydd, rwy'n mynd i Ysgol Uwchradd Llanisien ac yn defnyddio’r rhagenw hi.

Mae’r rheswm yr hoffwn eich cynrychioli chi yn Senedd Ieuenctid Cymru yn syml, i wneud newid. Rwyf am sicrhau bod eich syniadau a'ch credoau yn cael eu clywed fel y gallwn newid y wlad hon er gwell. Byddai fy hyder yn fy ngalluogi i wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod beth rydych CHI yn ei gredu.

Mae cydraddoldeb yn hanfodol, i bawb. Waeth beth yw eich hunaniaeth rhyw, cyfeiriadedd rhywiol/rhamantaidd, hil neu grefydd. Mae pawb yn haeddu'r un hawliau, fel aelod o'r gymuned LHDTC+ rwy'n teimlo'n gryf iawn am hyn.

Nid yw'r System Addysg yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y dyfodol, mae'n paratoi ni ar gyfer y gorffennol. Wedi'r cyfan, cafodd ei chreu i hyfforddi myfyrwyr i weithio mewn ffatrïoedd. Wyddech chi bod gwaith cartref wedi’i greu fel cosb? Yn 2020, dewisais yr angen i ddiwygio’r system addysg fel fy mhwnc trafod. Rwy’n credu’n gryf bod angen rhoi sylw i’r mater hwn.

Pa bynnag faterion sy'n eich poeni chi, byddaf yn sicrhau eu bod yn cael sylw os caf fy ethol.

Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn darllen hwn, diolch.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Fiona Garbutt