Roedd Freddie yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma ei
ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid
Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Datblygu
economaidd
- Gweithredu
ar Newid Hinsawdd
- Cwricwlwm
Addysgol Tecach
Datganiad
Ymgeisydd: Rwyf am fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan fy mod yn credu ei
bod yn hanfodol bod Cymru yn edrych ymlaen at y dyfodol, nid yn ôl i'r gorffennol.
Fel pobl ifanc, mae dyfodol ein cenedl yn ein dwylo ni. Yn wyneb yr argyfwng
hinsawdd, COVID-19 a mudiadau cymdeithasol, fel Black Lives Matter, rhaid inni
weiddi’n uwch nag erioed ar y pwynt tyngedfennol hwn mewn hanes a sicrhau bod
ein lleisiau'n cael eu clywed. Pe bawn i'n cael fy ethol i fod yn Aelod Senedd
Ieuenctid Cymru dros Lanelli, byddwn yn ymladd yn ddiflino i greu dyfodol gwell
i holl bobl Cymru.
Byddwn yn
ymgynghori â phobl ifanc Llanelli trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'n haws nag
erioed i gyfathrebu â chynulleidfa dorfol a chael clywed eu barn yn yr oes
fodern. Byddwn yn defnyddio hyn i’m mantais fy hun i gynrychioli fy ardal yn
gywir.
Fe ddylech chi
bleidleisio drosof i, yn anad dim, gan fy mod i'n fachgen y bobl. Rwy'n
wynebu’r un materion â phawb arall yn Llanelli ac yn deall beth yw bywyd go
iawn. Yn ogystal, rwy'n ddadleuwr profiadol, cadarn a dadansoddol gyda syniadau
blaengar a fydd o fudd i bawb, nid dim ond yr un y cant uchaf.