Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Georgia Miggins

Georgia Miggins

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Learning Disability Wales

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd meddwl
  • Awtistiaeth mewn merched
  • Diffyg cyfleoedd hamdden

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 07/06/2023

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 07/06/2023

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 07/06/2023

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 07/06/2023

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 07/06/2023

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | 07/06/2023

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Georgia Miggins

Bywgraffiad

Datganiad yr Ymgeisydd: Mae gen i anableddau ac rwy'n mynychu ysgol anableddau. Mae gan fy mrawd anableddau a phroblemau iechyd meddwl hefyd felly rwy'n gwybod am yr heriau y mae pobl ag anableddau yn eu hwynebu. Mae diffyg cynrychiolaeth am anableddau mewn llyfrau, ar y teledu ac mewn bywyd yn gyffredinol. Rwyf i fy hun wedi profi’r teimlad o beidio â chael fy nghynrychioli a gwn bod eraill hefyd. Rwy'n gwybod ei bod yn bwysig i rywun ag anableddau deimlo y caiff ysbrydoliaeth a chynrychiolaeth wrth weld rhywun fel fi sydd ag anabledd yn y rôl hon. Gwn fod angen inni wrando mwy ar bobl anabl a lleisio ein barn fel y gallwn gyrraedd ein nodau a chael yr un cyfleoedd â phawb arall.

Mae gennyf sgiliau arwain da ac fe'm hetholwyd sawl gwaith i fod yn aelod o'r cyngor eco a'r cyngor ysgol. Helpodd hyn fi i fagu hyder a'm hannog i siarad am faterion a oedd yn bwysig i mi ac i eraill yn fy ysgol.

Rwy'n garedig, yn dosturiol ac yn ystyriol felly gallaf ddeall safbwyntiau gwahanol a bod yn agored fy meddwl.

Rwyf yn angerddol am achosion sy'n bwysig i mi ac yn dda am wrando ar eraill am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Byddwn yn gwneud fy ngorau i helpu i siarad drostynt.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Georgia Miggins