Datganiad
Ymgeisydd: Helo, dw i eisiau bod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn
cymryd rhan yn y cyfleoedd unigryw fydd ar gael i mi.
Dw i’n credu bod
angen i bob person ifanc gael llawer o opsiynau cymorth gyda phenderfyniadau
pwysig mewn bywyd. Dylai pawb wybod ble i gael y cymorth, nid gorfod chwilio ar
Google. Yn siarad o brofiad, mae preifatrwydd yn fater sydd angen mwy o
ymwybyddiaeth. Dylai derbyn cyngor diduedd fod yn rhwydd, yn enwedig mewn
ysgolion. Mae straen yn broblem fawr pan mae’n dod i’r TGAU, ac mae cymorth yn
yr ysgol sy’n gallu helpu. Ond os bydd y straen yn cael ei gyfuno gyda straen
cymdeithasol, mae’n mynd y tu hwnt i allu meddyliol. Pan fydd hyn yn digwydd dw
i eisiau datblygu gwasanaethau sy’n gallu helpu pobl ifanc ymdopi.
Dw i eisiau bod
yn llais i bobl, i wrando arnyn nhw a helpu nhw. Dw i wedi cael fy nisgrifio
‘fel cloc’ sy’n golygu nad ydw i fyth yn stopio na chwyno. Dw i’n dal ati bob
tro, yn mynd ar ôl y newid dw i’n credu ynddo.
Diolch am wrando,
Grace