Datganiad
Ymgeisydd: Dw i’n credu bod gan Gymru lawer o bethau da, ond mae hefyd llawer o
bethau sydd angen eu gwella. Dw i’n angerddol dros daclo pethau fel
digartrefedd, niwed amgylcheddol, gofal iechyd gwael a diffyg addysg. Os caf fy
ethol, bydden i’n siarad ac yn gwrando ar aelodau ifanc o’r gymuned, fel dw i
wedi ei wneud ar gyngor disgyblion yr ysgol ers tair blynedd, yn lleisio eu
meddyliau ac anghenion hanfodol. Dw i’n weithgar, yn hyderus, yn benderfynol ac
yn ofalgar, a dw i’n gwybod os bydden i’n cael fy ethol ac yn edrych ar
broblemau yng Nghymru, bydden i’n gweithio gydag eraill i’w datrys nhw gydag
angerdd, empathi a gwydnwch, a dw i’n gwybod y bydden i’n gallu bodloni
gofynion. Dw i’n teimlo’n gryf iawn dros helpu Cymru a’i phobl ifanc ddatblygu
a ffynnu, ac un diwrnod dw i’n gobeithio bod yn Aelod o’r Senedd. Dw i’n credu
bod Cymru yn seiliedig ar y gymuned, ac os caf fy ethol, bydden i’n sefyll i
fyny dros fy nghymuned a beth sydd orau ac yn iawn i’w phobl ifanc a’r
amgylchedd o’u cwmpas.