Roedd Hanna yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd
yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Hanes BAME
- Helpu myfyrwyr
difreintiedig
- Iechyd meddwl
yn yr ysgol
Datganiad ymgeisydd: Helo! Hanna
Mahamed ydw i, rwy’n 16 oed ac rwy’n dod o Gaerdydd.
Byddwn yn ddiolchgar iawn o gael cefnogaeth Race Council Cymru ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwyf
am weld drysau’n agor a chyfleoedd yn cael eu cyflwyno i bobl ifanc yng Nghymru
dan anfantais, sydd wedi’u tangynrychioli.
Rwy'n angerddol, yn ymroddedig ac yn poeni’n fawr am fy
nghymuned. Mae hyn ochr yn ochr â'm creadigrwydd, sy’n golygu fy mod i’n
ymgeisydd delfrydol. Ymgeisydd a fydd yn ymgysylltu'n rheolaidd ag ieuenctid ei
chymuned drwy fforymau, holiaduron/arolygon a chyfryngau cymdeithasol. Er mwyn
sicrhau bod y rhai nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd yn cael eu clywed,
byddaf yn trefnu cyfarfodydd yn fy mhafiliwn lleol. Drwy hyn, byddaf yn
gwarantu bod lleisiau, barn a chwestiynau fy nghyfoedion yn cael eu clywed a'u
deall.
Er nad oes gennyf brofiad yn yr ystyr arferol, mae gen
i’r profiad byw sy’n gwneud yn iawn a mwy am hyn. Fel merch ifanc, ddu,
Mwslimaidd, dosbarth gweithiol, rwyf wedi gweld digon o anghydraddoldebau i
wybod bod digon yn ddigon. Bydd dod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn
caniatáu i mi helpu i hwyluso'r newid y dylai fod wedi cael ei wneud yn
gynharach.
Nid ydym yn fonolith ac felly ni all cymdeithas sydd wedi
cael ei hadeiladu ar gyfer un grŵp ein gwasanaethu ni i gyd, ac rwy’n
gobeithio y gallaf helpu i wireddu’r newid hwn.