Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Hanna Mahamed

Hanna Mahamed

Partner elected Member

Race Council Cymru

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Hanes BAME
  • Helpu myfyrwyr difreintiedig
  • Iechyd meddwl yn yr ysgol

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Hanna Mahamed

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Helo! Hanna Mahamed ydw i, rwy’n 16 oed ac rwy’n dod o Gaerdydd. Byddwn yn ddiolchgar iawn o gael cefnogaeth Race Council Cymru ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwyf am weld drysau’n agor a chyfleoedd yn cael eu cyflwyno i bobl ifanc yng Nghymru dan anfantais, sydd wedi’u tangynrychioli.

Rwy'n angerddol, yn ymroddedig ac yn poeni’n fawr am fy nghymuned. Mae hyn ochr yn ochr â'm creadigrwydd, sy’n golygu fy mod i’n ymgeisydd delfrydol. Ymgeisydd a fydd yn ymgysylltu'n rheolaidd ag ieuenctid ei chymuned drwy fforymau, holiaduron/arolygon a chyfryngau cymdeithasol. Er mwyn sicrhau bod y rhai nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd yn cael eu clywed, byddaf yn trefnu cyfarfodydd yn fy mhafiliwn lleol. Drwy hyn, byddaf yn gwarantu bod lleisiau, barn a chwestiynau fy nghyfoedion yn cael eu clywed a'u deall.

Er nad oes gennyf brofiad yn yr ystyr arferol, mae gen i’r profiad byw sy’n gwneud yn iawn a mwy am hyn. Fel merch ifanc, ddu, Mwslimaidd, dosbarth gweithiol, rwyf wedi gweld digon o anghydraddoldebau i wybod bod digon yn ddigon. Bydd dod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn caniatáu i mi helpu i hwyluso'r newid y dylai fod wedi cael ei wneud yn gynharach.

Nid ydym yn fonolith ac felly ni all cymdeithas sydd wedi cael ei hadeiladu ar gyfer un grŵp ein gwasanaethu ni i gyd, ac rwy’n gobeithio y gallaf helpu i wireddu’r newid hwn.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Hanna Mahamed