Roedd Harriet yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma ei datganiad
pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Tlodi plant
- Gorddibyniaeth ar arholiadau
- Llygredd aer
Datganiad
ymgeisydd: Hoffwn i ddod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn helpu'r bobl
ifanc yn fy nghymuned i gymryd rhan wrth wneud penderfyniadau cenedlaethol. Bydda
i’n eich cynrychioli chi, a'ch barn. Mae angen i ni siarad, a fi fydd eich
llais.
Dros y
blynyddoedd diwethaf, mae diffygion yn ein system addysg wedi cael llawer o
sylw, ac un ohonyn nhw oedd yr orddibyniaeth ar arholiadau. Mae angen mwy o
bwyslais ar waith cwrs, a llai ar un arholiad i bob pwnc, sydd i fod i bennu
ein dyfodol. Ddylai e ddim. Dw i'n addo gwthio newid.
Mae bron un o bob
tri o blant yn dal i fyw mewn tlodi yng Nghymru. Mae diffyg cyfleoedd addysgol
fforddiadwy i fyfyrwyr, er enghraifft, mae teithiau ysgol drud yn eithrio'r
rhai o gefndiroedd tlotach. Mae angen i hyn newid.
Dw i’n bwriadu
cynnig cyfle i bobl ifanc yng Nghaerffili ymuno â
chyfarfod rhithwir unwaith y mis. Byddwn ni’n casglu eu barn ac yn rhannu
syniadau.
I gloi, mae gen
i'r sgiliau cyfathrebu ac arwain sydd eu hangen i fod eich llefarydd chi. Dw
i'n ystyried fy hun yn siaradwr hyderus, mae gen i brofiad o gyflwyno’n
genedlaethol, perfformio i gynulleidfaoedd mawr, a gwirfoddoli yn fy nghymuned.
Diolch.