Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Aelod

Aelod

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Roedd yr Aelod hwn yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Aelod

Bywgraffiad

Roedd yr Aelod hwn yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i Marwth 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cyngor ar yrfaoedd, gan gynnwys hyfforddiant sgiliau i helpu i gael mynediad at waith a phrofiad gwaith
  • Cydraddoldeb mynediad at addysg uwch a phrentisiaethau i bobl ifanc fel ceiswyr lloches.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, a dealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc yng Nghymru.

Rwy'n mynd i'r coleg, lle rwy'n astudio iechyd a gofal cymdeithasol. Daeth fy nheulu a fi i Gymru fel ffoaduriaid ddwy flynedd yn ôl. Fe'm ganwyd yn Syria, ac fe symudais i Irac cyn dod i'r DU.

Cwrdeg yw fy iaith gyntaf ac rwy'n siarad Arabeg hefyd. Dechreuais ddysgu Saesneg yn Ysgol y Grango, lle sefais arholiadau TGAU y llynedd. Mae addysg yn bwysig, ac rwy'n gobeithio dilyn gyrfa mewn meddygaeth, efallai fel bydwraig. Rwyf wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth, ac rwyf hefyd yn mwynhau arlunio, paentio a gwneud pethau. Yn ogystal â threulio amser gyda fy ffrindiau, rwy'n hoffi mynychu Fforwm Cyfranogi TGP Cymru, lle rwy'n dysgu sut mae'r llywodraeth yn gweithio yng Nghymru.

Byddaf yn dysgu rhagor fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, a byddaf yn manteisio ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth o sut beth yw bywyd fel ceisiwr lloches ifanc, gan roi llais i bobl ifanc eraill hefyd.

Digwyddiadau calendr: Aelod