Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Isabella Flye

Isabella Flye

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS), Rhondda Cynon Taf

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cyfleoedd cyfartal i bobl ifanc
  • Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc
  • Cefnogi pobl ifanc i fod y fersiwn orau o’u hunain

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Isabella Flye

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Fy enw i yw Isabella Flye, rwy'n 15 oed ac yn byw yn Rhondda Cynon Taf. Rwy'n angerddol am helpu eraill a sicrhau bod gan bobl ifanc lais mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.

Byddwn i'n disgrifio fy hun fel rhywun caredig a chefnogol, ac rydw i bob amser yn ceisio bod yno i bobl pan fydd angen rhywun arnyn nhw i gael sgwrs. Rwy'n wrandäwr da ac yn mwynhau clywed gwahanol safbwyntiau a phrofiadau. Yn fy amser rhydd, rwy'n mwynhau darllen, gan ei fod yn fy helpu i ddysgu pethau newydd a datblygu fy nychymyg. Rydw i hefyd wrth fy modd yn mynd ar deithiau gyda fy nghlwb ieuenctid, lle rwy’n gallu cwrdd â phobl newydd, cael profiadau newydd, a magu hyder. Un o'r pethau rwy'n eu mwynhau fwyaf yw bod yn llais i bobl ifanc a chynrychioli eu safbwyntiau a'u syniadau.

Y materion sydd bwysicaf i mi yw sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob person ifanc, codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw, a chefnogi pobl ifanc i fod y fersiwn orau o’u hunain. Rwy'n credu y dylai pob person ifanc deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei fod wedi'i gynnwys, a chael ei rymuso i gyflawni ei botensial.

Tymhorau yn y swydd

  1. 28/07/2026 -

Digwyddiadau calendr: Isabella Flye