Roedd Jack yn Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i
2024.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar
gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
Cefnogi
addysg plant ar ôl COVID
System
gredyd i bobl ifanc
Ymgysylltu
pob myfyriwr â chwaraeon
Datganiad
Ymgeisydd: Sbardunwyd fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth yn ystod Etholiad
Cyffredinol 2017 oherwydd fy mod yn credu, ac yn dal i gredu, fod angen
trosglwyddo pŵer
yn ôl i'r bobl. Rwyf hefyd wedi
bod yn aelod o'r Blaid Lafur yn fy etholaeth ers mis Ebrill 2020 ac yn aelod o
Gyngor Ysgol Rhydywaun ers 2021. Rwy’n haeddu bod yn aelod o'r Senedd Ieuenctid oherwydd byddaf yn mynegi fy
syniadau ar sut y gallwn wella bywydau ac addysg cenedlaethau'r dyfodol. Byddaf
hefyd yn ceisio cael cynulleidfa mor eang â phosibl, felly byddaf yn ymgysylltu
â phobl ifanc yn fy ardal drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Os caf fy ethol,
byddwn yn ymdrechu i weithredu fy syniadau, gan gynnwys cymorth ychwanegol i
bobl ifanc yn eu haddysg ar ôl COVID i helpu myfyrwyr i addasu. Hefyd, byddaf
yn pwyso am fwy o weithgareddau mewn addysg gorfforol i ymgysylltu â PHOB
myfyriwr a'u cadw'n heini ac yn iach. Yn olaf, hoffwn weld system gredyd yn
cael ei chyflwyno i bobl ifanc, yn enwedig y rhai sy'n dod o aelwydydd tlotach,
gan roi'r cymorth sydd ei angen arnynt i brynu hanfodion. Os hoffech weld y
rhain a syniadau eraill yn cael eu gweithredu, yna credaf mai fi yw'r ymgeisydd
cywir.