Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Jack Robert George Rigdon

Jack Robert George Rigdon

Fy mhrif ystyriaethau:

  • BSL fod yn rhan o'r cwricwlwm
  • Gwisgoedd ysgol rhatach a gwell gwerth am arian
  • Cyfleusterau iechyd meddwl mwy hygyrch a gweladwy i bobl ifanc

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Jack Robert George Rigdon

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Fy enw i yw Jack, rydw i'n 15 oed ac rydw i'n byw yn Abertawe gyda fy Mam, Louise. Dywed fy Mam, ni waeth pa anawsterau sydd gennych, eu bod yn "alluoedd ychwanegol"!

Rydw i wrth fy modd yn mynd i'm heglwys a chwrdd â ffrindiau yno ac yn y clybiau mae ein heglwys yn eu rhedeg. Rydw i hefyd yn perthyn i lawer o glybiau lle rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau. Rydw i'n mynd i syrffio gyda grŵp syrffio hygyrch o'r enw Surfability yn Caswell yn y Gŵyr. Rydw i'n gwneud hyn ers dwy flynedd.  Mae wedi dysgu llawer o amynedd a phenderfyniad i mi ac rydw i wedi cwrdd â phobl anhygoel o wahanol lefydd gyda llawer o wahanol alluoedd.

Rydw i hefyd yn mynd i Glwb Byddar gwych o'r enw Talking Hands (Gwasanaethau Talking Hands i Blant a Phobl Ifanc Byddar). Rydw i wedi bod yn mynd ers 10 mlynedd erbyn hyn. Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau - maen nhw wedi fy nysgu nad ydw i ar fy mhen fy hun gyda fy Myddardod, ac mae llawer o bethau y gallaf eu gwneud mewn bywyd. Rydw i hefyd wedi dechrau dysgu BSL gyda fy ffrindiau, ac rydyn ni bob amser yn gwneud llawer o weithgareddau hwyliog iawn. Oherwydd bod Talking Hands yn fy nghefnogi, rydw i newydd ymddangos ar Countryfile Ramble Plant Mewn Angen 2024, ac roeddwn i mor falch o gynrychioli Talking Hands. Maen nhw wedi gwneud cymaint i mi, mae'n bwysig i mi roi yn ôl iddyn nhw!

Un o fy mhrif ddiddordebau yw creu fy animeiddiadau fy hun, Stop Motion. Rydw i wedi dysgu fy hun i wneud hyn, ac rydw i wrth fy modd yn dysgu sgiliau newydd! Mae hefyd wedi dysgu amynedd i mi ac rydw i'n benderfynol o weithio yn y maes hwn pan fyddaf yn hŷn. Rydw i'n falch iawn o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni ar fy mhen fy hun hyd yn hyn.

Buaswn i wrth fy modd bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwy'n angerddol iawn am y tri maes rydw i wedi'u codi yn fy nghais. Hefyd, rydw i am brofi i eraill bod gan bob un ohonom ni lais, ni waeth pa alluoedd ychwanegol sydd gennych!

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Jack Robert George Rigdon