Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Jake Dorgan

Jake Dorgan

Castell-nedd

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gwella cyfleusterau ieuenctid
  • Gwneud Cymru'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd
  • Helpu busnesau i ffynnu yng Nghymru

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Jake Dorgan

Bywgraffiad

Datganiad yr ymgeisydd: Fy enw i yw Jake Dorgan ac rydw i eisiau bod yn llais y bobl ifanc nid yn unig yn fy ardal i yng Nghastell-nedd a Phort Talbot, ond yng ngweddill Cymru hefyd. Rwy'n berson angerddol, yn siaradwr cyhoeddus hyderus ac yn berson y mae dyfodol Cymru o bwys iddo.  

Byddaf yn cynrychioli materion a diddordebau fy ardal ac yn gwrando ar eu barn trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yr ydym yn teimlo'n fwy cyfforddus â hwy, er enghraifft Tik Tok a Discord. Mae'r rhain yn ddau fath poblogaidd o gyfryngau y gellir eu defnyddio'n llwyddiannus i hysbysu pobl ifanc Cymru. 

Os caf fy ethol, rwyf am sicrhau bod gan bobl ifanc gydnabyddiaeth, cyfleusterau i annog twf ac nid gwrthdaro, addysg sy'n ein paratoi ar gyfer y byd go iawn, cyfle i ddechrau busnes newydd ac yn anad dim, Cymru sydd yma ar ei gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn economaidd ac yn amgylcheddol.

Byddai pleidlais i mi yn golygu cael rhywun a fydd yn gwrando, yn cyfathrebu ac yn sicrhau bod newidiadau yn digwydd yn ein hardal, byddaf yn gwneud yn siŵr bod Castell-nedd yn cael ei chynrychioli yn y Senedd. Rwy'n deall y bydd rhai materion yn cymryd amser i'w datrys ond rwy'n hapus i adeiladu ymgyrch i lunio ein dyfodol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Jake Dorgan