Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Jonathon Dawes

Jonathon Dawes

Dyffryn Clwyd

Roedd Jonathon yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Y Cyfarfod Llawn | 24/02/2021

Y Cyfarfod Llawn | 24/02/2021

Diolch, Lywydd. I ddechrau, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn fraint go iawn cael bod yn y Siambr heddiw i siarad am sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, sy'n fater gwirioneddol bwysig i bobl if...

Y Cyfarfod Llawn | 26/06/2019

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Jonathon Dawes

Bywgraffiad

Roedd Jonathon yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cludiant – Cost isel i bobl ifanc
  • Iechyd – Bwyta’n iach a chyllid chwaraeon
  • Yr Amgylchedd – lleihau gwastraff gan gynnwys plastig

Fy enw i yw Jonathon Dawes; rwy'n 15 oed, ym Mlwyddyn 11 ac yn brif fachgen yn Ysgol Uwchradd y Rhyl. Rwyf wedi ennill nifer o wobrau yn sgil fy ngwaith yn y gymuned a thenis, gan gynnwys Gwirfoddolwr Ifanc Tenis Cymru y flwyddyn, gwobr Maer Rhyl, gwobr Chwaraeon Sir Ddinbych ac rwyf wedi ennill gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Rwyf i wedi byw yn Nyffryn Clwyd gydol fy oes ac rwy’n teimlo fy mod i'n berson perffaith i'ch cynrychioli chi yn y Senedd, yn arbennig gyda'r sgiliau rwyf i wedi eu hennill o chwarae tenis a gwahanol swyddogaethau eraill. Rwy’n ymgeisio oherwydd fy mod i’n dymuno gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Rwy'n gweithio'n galed, yn angerddol am y gymuned a gwleidyddiaeth. Os caf i fy ethol, gallwch chi gysylltu â mi ar y cyfryngau cymdeithasol neu ddod i un o fy sesiynau galw heibio misol, i godi eich pryderon, a byddaf yn clywed eich barn yn bersonol.

Fy nhair prif flaenoriaeth yw ...

Cludiant cost isel i bobl ifanc, Mwy o arian ar gyfer chwaraeon a bwyta'n iach, Gwarchod ein hamgylchedd trwy fynd i'r afael â'n problemau plastig.

Mae'r materion hyn yn bwysig i bobl ifanc.

Diolch am ddarllen ac rwy’n gobeithio y byddwch chi'n pleidleisio drosof i fel eich aelod newydd o’r Senedd Ieuenctid.

Digwyddiadau calendr: Jonathon Dawes