Roedd Kasia yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma eidatganiad
pan oeddynymgeisyddyn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrifystyriaethau:
Yr amgylchedd
Iechyd
meddwl
Tlodi plant
Datganiad yr
ymgeisydd: Byddwn i wrth fy modd i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru
oherwydd credaf y byddai'n gyfle gwych i mi weithio gyda phobl ifanc eraill, gwrando
ar eu barn a rhannu fy marn fy hun i allu gwneud newid cadarnhaol i bob person
ifanc ar draws Cymru. Pe bawn i'n cael fy newis, byddwn yn cynnal arolygon ar
gyfer myfyrwyr ar draws gwahanol ysgolion ym Mlaenau Gwent i sicrhau bod eu
lleisiau'n cael eu clywed, ac i gynrychioli safbwyntiau a syniadau pobl ifanc
eraill yn fy nghymuned, a’r hyn y mae’n nhw’n angerddol yn eu cylch er mwyn
gwireddu eu delfrydau o ddyfodol gwell. Ymhlith rhai enghreifftiau o sgiliau
sydd gennyf mae sgiliau cyfathrebu gwych oherwydd i mi ymgymryd â siarad mewn
arholiadau LAMDA cyhoeddus a chyflwyniadau eraill, a'r gallu i gyfleu fy
meddyliau yn hyderus ar wahanol faterion o ganlyniad i fod yn rhan o Fwrdd Pobl
Ifanc yr NSPCC ar gyfer Newid. At hynny, fi yw prif ferch yr ysgol. Credaf y
dylai rhywun bleidleisio drosof oherwydd byddaf yn gallu dod ag agwedd
ymroddedig i'r Senedd, a pharodrwydd i sefyll dros farn pobl ifanc yn fy ardal
ar sut y gallwn gefnogi pobl ifanc ledled Cymru.