Datganiad
Ymgeisydd: Rwy’n credu bod gan bobl ifanc lawer o botensial a syniadau i wella
ein cymuned a chreu newid, ond yn anffodus gall hyn gael ei anwybyddu’n aml.
Dealltwriaeth, cymuned, a chydweithio yw’r elfennau allweddol y byddwn yn eu
cymhwyso fel AS Ieuenctid sy'n benderfynol o eiriol dros y materion y mae pobl
ifanc yn poeni amdanynt. Yn seiliedig ar yr adborth o sgwrsio â phobl ifanc yn
fy ardal, rwyf wedi nodi materion pwysig yr hoffwn i fynd i'r afael â nhw.
Mater rwy’n teimlo’n gryf amdano yw lliniaru effaith feddyliol, ariannol ac
academaidd hirhoedlog Covid-19 ar bobl ifanc. Fy nod yw gwella mynediad at
gymorth addysgol ac iechyd meddwl i fyfyrwyr mewn ysgolion ar draws y sir. Yn
ail, hoffwn greu mannau diogel i bobl ifanc. Mae gwasanaethau diogel a difyr yn
lle i blant gymdeithasu a chyfyngu ar chwilio am adloniant niweidiol. Drwy
weithdai addysgol sy'n ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth, hoffwn addysgu pobl
ifanc a chreu mwy o ddealltwriaeth o'r pwnc.