Roedd Laura yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma ei datganiad
pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Yr Amgylchedd - Canolbwyntio ar
ansawdd dŵr
- Iechyd meddwl - Cael gwared ar y
stigma
- Mwy o amrywiaeth o gyfleoedd i bobl
ifanc
Datganiad
ymgeisydd: Fy enw i yw Laura Green - dw i'n fyfyriwr 16 oed sy'n astudio yn
Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy, yn angerddol am faterion lleol sy'n ymwneud
â'm cymuned, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar fy ngrŵp oedran i neu bobl iau na fi.
Ar ôl byw drwy'r
ysgol uwchradd a gweld yn uniongyrchol sut mae fy ffrindiau, fy nheulu a’m
ffrindiau ysgol wedi dioddef o faterion amrywiol, mwy o bwysau a heriau - mae'n
amlwg bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i
helpu pobl ifanc i ymdopi.
Gan fy mod i’n
credu'n gryf yng ngrym cymuned - dw i wedi bod yn rhan o grŵp drama cynhwysol a chyfleuster cerdd ers
blynyddoedd lawer ac wedi gweld manteision ein gweithgarwch grŵp a'n hymdeimlad o gymuned. Yn ogystal â hyn, dw i wedi cyflawni fy Ngwobr Dug
Caeredin Efydd - gan ddangos nerth gwaith tîm a chyfathrebu, sgil bwysig sydd
ei hangen i fod yn ymgeisydd llwyddiannus a deall y materion mae fy nghymuned
yn eu hwynebu.
Materion fel rhai
amgylcheddol, iechyd meddwl ac amrywiaeth o ran y cyfleoedd sydd ar gael.
Dw i eisiau bod
yn Aelod SIC gan fy mod i’n credu yng ngrym cynrychiolaeth ddemocrataidd,
pwysigrwydd ymgysylltu a chynrychioli barn fy nghymunedau lleol am y
penderfyniadau mawr.