Datganiad Ymgeisydd: Fy enw i ydy Lewis, ar ôl Lewis Hamilton, dewisais i
fy enw fy hun oherwydd fy mod i'n ddyn Traws. Dewisais i enwi fy hun ar ôl
Lewis Hamilton oherwydd mai ef yw ffefryn fy nhad go iawn ac roeddwn i eisiau
enw sy'n bwysig iddo.
Nes i sylweddoli mod i'n rhan o'r gymuned LGBTQIA+ pan oeddwn i'n 8 oed,
ond doeddwn i ddim yn gwybod y gair amdano, dim nes oeddwn i'n 11 oed ac fe
ddes i allan yn swyddogol fel Panrywiol, a phan o'n i'n 11 oed sylweddolais i
hefyd fy mod i'n Traws ond wnes i ddim dod allan yn swyddogol, a newid fy enw,
nes oeddwn i'n 13 oed ddeufis cyn i fi droi'n 14 oed.
Roedd dod allan yn anodd iawn oherwydd fi oedd yr unig un yn yr ysgol, y
dref, ac yn fy nheulu.
Wnes i ymuno hefo GISDA pan oeddwn i'n troi'n 14 oed, roedd hi’n 1af Medi
2022. Sy'n golygu mod i wedi dechrau GISDA ddim yn hir ar ôl dod allan fel
Traws ac roeddwn i'n nerfus iawn am hynny. GISDA oedd y lle cyntaf lle roedd
pobl ond yn fy adnabod fel "Lewis sy'n fachgen"
Clywais i am GISDA oherwydd welais i nhw yn Pride Cricieth ac ychydig
wythnosau wedyn fe ddes i fyny gyda fy chwaer, cerdded i mewn, a byth wedi
gadael. Rydw i wedi bod yn mynd am y ddwy flynedd ddiwethaf, a fyddwn i ddim yn
pwy ydw i heb GISDA.
Fe wnaeth staff fy helpu i sefyll i fyny i athrawon Trawsffobig. Roedd
ffrindiau yno yn gadael i mi arthio am beth bynnag roeddwn i'n meddwl neu'n
poeni amdano.
Mi wna’i gyfaddef mod yn hynod falch o fod yn pan ond tydw i ddim yn falch
o fod yn Trans, oherwydd y ffordd y cefais i fy magu. Ond dyna pam mae fy mhrif
faterion yn ymwneud â phobl Traws, rydw i am fod yn fwy balch ohonof fi fy hun
ac rydw i am i bobl eraill, nid dim ond Traws, ond unrhyw un sydd ddim mor
falch â fi hefyd i deimlo'r balchder yn disgleirio allan ohonyn nhw eu hunain.