Roedd Lloyd yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma ei
ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid
Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
Iechyd
meddwl pobl ifanc
Amddiffyn
yr amgylchedd
Trafnidiaeth
wledig
Datganiad
ymgeisydd: Lloyd Warburton ydw i ac rwy'n gobeithio cael fy ethol i fod yn
Aelod nesaf Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Cymru. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn
gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol ac rwyf bob amser wedi cael yr uchelgais o
ddadlau dros Geredigion ar lefel genedlaethol. Ers 2017, rwyf wedi bod yn
angerddol am gefnogi annibyniaeth i Gymru, ac ers hynny rwyf wedi ymddiddori
llawer mwy mewn materion lleol penodol. Byddaf yn dadlau’n gryf dros iechyd
meddwl pobl ifanc, yr angen i ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a
Chaerfyrddin, yn ogystal â’r amgylchedd gwledig, yn enwedig y problemau sbwriel
yn ein sir. Byddaf yn mynd ati i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith
ar y cyfryngau cymdeithasol, a bydd yn hawdd cysylltu â mi ar y cyfryngau
cymdeithasol ac unrhyw ddull arall ynglŷn ag UNRHYW fater sy’n bwysig i bobl ifanc yng Ngheredigion.
Gallaf ddod â phobl
ynghyd, gwrando ar ddwy ochr unrhyw fater, a dadansoddi data a thystiolaeth yn
ofalus iawn, gan sylwi’n aml ar bethau efallai na fyddai pobl eraill wedi’u
nodi. Er mis Mawrth 2020, rwyf wedi olrhain sefyllfa COVID-19 Cymru, ac wedi
postio diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r gwaith hwn wedi denu
sylw mwy na 20,000 o bobl. Hefyd, rwy’n gallu siarad Cymraeg, sy’n golygu fy
mod i’n berson delfrydol i gynrychioli ein sir hardd. Edrychaf ymlaen at
wasanaethu holl bobl ifanc Ceredigion!