Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Lloyd Warburton

Lloyd Warburton

Ceredigion

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd meddwl pobl ifanc
  • Amddiffyn yr amgylchedd
  • Trafnidiaeth wledig

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Lloyd Warburton

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Lloyd Warburton ydw i ac rwy'n gobeithio cael fy ethol i fod yn Aelod nesaf Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Cymru. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol ac rwyf bob amser wedi cael yr uchelgais o ddadlau dros Geredigion ar lefel genedlaethol. Ers 2017, rwyf wedi bod yn angerddol am gefnogi annibyniaeth i Gymru, ac ers hynny rwyf wedi ymddiddori llawer mwy mewn materion lleol penodol.  Byddaf yn dadlau’n gryf dros iechyd meddwl pobl ifanc, yr angen i ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, yn ogystal â’r amgylchedd gwledig, yn enwedig y problemau sbwriel yn ein sir. Byddaf yn mynd ati i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith ar y cyfryngau cymdeithasol, a bydd yn hawdd cysylltu â mi ar y cyfryngau cymdeithasol ac unrhyw ddull arall ynglŷn ag UNRHYW fater syn bwysig i bobl ifanc yng Ngheredigion. Gallaf ddod â phobl ynghyd, gwrando ar ddwy ochr unrhyw fater, a dadansoddi data a thystiolaeth yn ofalus iawn, gan sylwi’n aml ar bethau efallai na fyddai pobl eraill wedi’u nodi. Er mis Mawrth 2020, rwyf wedi olrhain sefyllfa COVID-19 Cymru, ac wedi postio diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r gwaith hwn wedi denu sylw mwy na 20,000 o bobl. Hefyd, rwy’n gallu siarad Cymraeg, sy’n golygu fy mod i’n berson delfrydol i gynrychioli ein sir hardd. Edrychaf ymlaen at wasanaethu holl bobl ifanc Ceredigion!

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Lloyd Warburton