Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Makenzie Evan Jack Thomas

Makenzie Evan Jack Thomas

Gweithredu dros Blant (Ysgol Headland)

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Anabledd cudd – Nid yw pob anabledd yn weladwy
  • Mabwysiadu – codi ymwybyddiaeth
  • Cynyddu a hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Makenzie Evan Jack Thomas

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Rwy'n fyfyriwr yn Ysgol Headlands sy'n ysgol ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r ysgol wedi rhoi cyfle imi ffynnu mewn amgylchedd sy'n gweddu'n well i'm hanghenion, gan nad oedd y system addysg brif ffrwd yn iawn ar fy nghyfer, ac roedd yn fy nal yn ôl. Ers ymuno â’r ysgol, rwyf wedi cael fy nghefnogi a’m hannog i ddilyn fy uchelgais o godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n hynod bwysig i mi, ac sy’n agos at fy nghalon. Cefais fy mabwysiadu yn 3 oed gan fy rhieni mabwysiadol arbennig, ac mae fy mhrofiad wedi bod yn gadarnhaol iawn. Gwn nad yw hyn bob amser yn wir am lawer o bobl ifanc eraill, a’m dymuniad yw helpu i wneud yn siŵr bod y broses fabwysiadu yn cael ei normaleiddio ai gwellan gyffredinol, fel y gall llawer mwy elwa ar brofiad gwell.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Makenzie Evan Jack Thomas