Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Megan Wyn Jones

Megan Wyn Jones

Gogledd Caerdydd

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Addysg
  • Y Gymraeg
  • Yr argyfwng costau byw

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Megan Wyn Jones

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Helo, Megan ydw i ac rwy’n sefyll i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwyf o’r farn fy mod yn empathetig ac yn onest a byddai'r rhinweddau hyn, ynghyd â'm barn gref ar faterion lleol, yn fy ngwneud yn gynrychiolydd da ar gyfer fy ardal. Rheswm arall i bleidleisio drosof fi yw fy mhrofiad fel siaradwr Cymraeg, chwaraewr hoci ac aelod o’r gerddorfa sy’n golygu fy mod i’n deall y gwahanol fathau o bobl ifanc sydd yng Nghaerdydd. Pe bawn i'n cael fy ethol, byddwn yn gwneud cyfathrebu â'r bobl ifanc rwy'n eu cynrychioli yn hygyrch, trwy gynnal cyfarfodydd ar-lein/wyneb yn wyneb. Gallai pobl rannu eu barn ar faterion lleol, a gweld camau’n cael eu cymryd ynghylch eu pryderon, neu’n cael eu dwyn i sylw pobl mewn awdurdod gennyf fi. Rwyf wedi cael rhywfaint o brofiad blaenorol mewn gwleidyddiaeth a bod yn rhan o ddadl, wrth i mi leisio pryder am fy nhri phwnc ffocws pan gymerais ran yng nghystadleuaeth gwladolion Senedd Ieuenctid Ewrop sef, yn ei hanfod, llwyth o fyfyrwyr Ysgol Uwchradd yn gweiddi ar ei gilydd am ddau ddiwrnod. Fodd bynnag, dysgais lawer am y modd y mae senedd yn gweithio, a sut y gallaf wneud newid go iawn.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Megan Wyn Jones