Datganiad
Ymgeisydd: Byddai’n anrhydedd mawr gen i fod yn aelod Senedd Ieuenctid Cymru
dros EYST. Dw i am i lais pobl ifanc EYST gael ei gynnwys yn Senedd Cymru.
Mae gen i
bartneriaeth waith wych gyda Lesley Griffiths AS ac Andrew Ranger AS a bydda
i’n gweithio gyda nhw i sicrhau bod eich lleisiau a’ch materion yn cael eu
clywed. Dw i wedi bod yn gweithio gyda Senedd yr Ifanc yn Wrecsam ers 4 blynedd
a dw i wedi gwneud newidiadau cadarnhaol yn Wrecsam, sy’n ymwneud ag Iechyd
Cyhoeddus Cymru a materion amgylcheddol.
Dw i eisiau
ymweld â’r holl glybiau ieuenctid yn EYST i siarad â phobl ifanc a gweithio
gyda nhw i gael eu barn am bethau bydda i’n gweithio arnyn nhw.
Dw i’n gobeithio
y bydd pobl ifanc EYST yn pleidleisio drosof i oherwydd fy nghymeriad gonest a
dibynadwy a bydda i’n ceisio sicrhau llwyddiant iddyn nhw.