Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Neli Rhys

Neli Rhys

Dwyfor Meirionnydd

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Addysg
  • Iechyd meddwl mewn pobl ifanc
  • Maethu Yng Nghymru

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Neli Rhys

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Neli Rhys ydw i a dwi’n dod o gyffiniau ardal Caernarfon. Fy ysgogiad i fod yn aelod Senedd Ieuenctid Cymru eleni yw fy angerdd tuag at y pynciau rwyf yn diddori ynddynt a fy nghysylltiad ar bynciau yn ogystal. Rwyf wedi cystadlu mewn sawl cystadleuaeth siarad gyhoeddus gyda mudiad CFfI felly yn gallu siarad o flaen pobl yn rhwydd.

Mi faswn yn cynnal sgyrsiau grŵp/un i un i bobl ifanc allu rhannu eu barn. Hefyd yn creu proffil Instagram er mwyn cyfathrebu.

Diffyg hyblygrwydd yw rhwystr y tri maes. Ges i brofiad dwys o Iechyd Meddwl ac mi roedd diffyg ymwybyddiaeth yn ddychrynllyd, diffyg cymorth a diffyg dealltwriaeth. Doedd y system addysg yn helpu dim arnaf chwaith, eto diffyg hyfforddiant mewn ysgolion gwir yn siomedig. Mae plant maeth Cymru dan anfantais eto oherwydd gwendidau'r system maethu.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Neli Rhys