Roedd Nia yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
Diffyg
Cydraddoldeb
Gordewdra
ymysg pobl ifanc
Cam-drin
Cyffuriau ac Alcohol
Fy enw i yw Nia Griffiths. Ar hyn o bryd rydw i ym Mlwyddyn 8, yn chwarae
yn fy nhîm pêl-rwyd lleol ac yn mwynhau mynd i Guides. Hoffwn ddechrau trwy
ddweud faint fyddai'r cyfle yma yn olygu i fi a faint hoffwn i gynrychioli pobl
ifanc Cymru. Mae'n hollbwysig bod gyda ni lais o ran sut mae’n gwlad ni’n cael
ei rhedeg. Rwyf yn cymryd rhan weithgar mewn nifer o grwpiau yn fy ysgol
uwchradd ac yn gallu gweld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i gael llais.
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwn i ymgynghori â phobl ifanc yn fy ardal. Yn
gyntaf, byddwn yn mynd at fy ysgol i gynnal gwasanaethau a chyfarfodydd gyda'm
cyfoedion. Gallaf gyrraedd pobl hefyd trwy fy uned Guides a’r cyfryngau
cymdeithasol. Byddai hyn yn sicrhau bod ystod eang o bobl ifanc yn dweud eu
dweud. Rwy'n gyfathrebwr ardderchog ac yn gwrando'n dda ar farn a syniadau pobl
eraill. Rwy'n hyderus, yn ymroddgar ac yn rhoi ymdrech 100% bob tro i mewn i
bopeth a wnaf. Rwy'n gyfeillgar a does dim ofn siarad aran i. Mae llawer o
syniadau gyda fi i wneud y wlad hon yn lle gwell byth i dyfu i fyny.
Pleidleisiwch imi er mwyn i'ch llais chi gael ei glywed.