Datganiad
Ymgeisydd: Mae bod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru yn golygu llawer i mi
oherwydd rydw i am helpu i greu mannau diogel i bobl ifanc gymdeithasu a
theimlo'n gyfforddus. Rydw i'n angerddol iawn am roi mwy o gefnogaeth i bobl
ifanc â phrofiad o ofal a sicrhau eu bod yn gwybod eu bod yn bwysig. Rydw i
hefyd yn credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ifanc wneud ymarfer corff gan ei
fod yn helpu iechyd meddwl a llesiant, felly rydw i'n ymwneud ag annog
gweithgareddau corfforol. Rydw i'n credu'n gryf mewn defnyddio fy llais i wneud
gwahaniaeth, ac rydw i'n hoffi siarad yn gyhoeddus. Helpu pobl yw'r hyn rydw
i'n hoffi ei wneud, ac rydw i bob amser yn cymryd yr amser i wrando ar yr hyn y
mae fy ffrindiau a'm cyfoedion ei eisiau a'i angen. Gyda'n gilydd, rydw i'n
gobeithio y gallwn ni wneud ychydig o newidiadau cadarnhaol i Ieuenctid Cymru!