Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Oliver Higgins

Oliver Higgins

Ogwr

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Llai o drethi i bawb
  • Dadreoleiddio ffermydd i ffermwyr
  • Diwygio ysgolion i weithio i ni

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Oliver Higgins

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Dw i eisiau bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr oherwydd dw i’n credu mewn gwneud gwahaniaeth mewn gwleidyddiaeth i helpu eirioli dros bolisi lle bo angen, ond hefyd, dadlau’r achos i amddiffyn ein hun yn erbyn pŵer cynyddol y wlad dros ein bywydau. Dw in bwriadu cysylltu â chi, y pleidleiswyr, dros e-bost a bydda in ateb o fewn wythnos heb duedd neu ddiystyru unrhyw gwestiwn, a chyda pharch bob tro. Dw in gwybod bod gan y senedd hon ddim pŵer, ond dw i eisiau ennill eich pleidlais beth bynnag. Bydden ni’n gallu anfon neges i’r elit sy’n rhedeg y llywodraeth yn dweud nad yw pobl ifanc Cymru yn anwybyddu cyfreithiau gormodol y senedd. Mae gen i brofiad yn cynrychioli eraill drwy wirfoddoli ar y cyngor ysgol dros y blynyddoedd. Dw i’n gallu cyflwyno cwestiynau a syniadau eraill i’r ysgol eu hystyried; yn enwedig fel y bydden ni’n ei wneud yn y Senedd Ieuenctid. Dw i’n gobeithio cael eich cefnogaeth. E-bostiwch fi os oes gennych gwestiynau.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Oliver Higgins