Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Iestyn Jones

Iestyn Jones

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Roedd Iestyn yn Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Iestyn Jones

Bywgraffiad

Roedd Iestyn yn Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd Meddwl
  • Addysg ol 16
  • Newid Hinsawdd

Datganiad Ymgeisydd: Pleidleisio yn Etholiad y Senedd 2021 am y tro cyntaf yn 16 oed oedd y sbardun i mi fod yn ymgeisydd i’r Senedd Ieuenctid.

Er bod trafod pynciau llosg y dydd a dilyn canlyniadau etholiadau tan oriau man y bore yn rywbeth cyffredin gartre, roedd cael yr hawl i bleidleisio yn 16 oed yn drobwynt. Teimlais bod fy llais innau nawr yn rhan o’r broses ddemocrataidd. Ond rwy’n ymwybodol nad yw pawb yn teimlo hynny a dyna pam hoffwn gynrychioli llais pobl ifanc eraill f’ardal yn y Senedd Ieuenctid.

Pe bawn i’n cael f’ethol, hoffwn gyd-weithio gyda mudiadau, unigolion ac ysgolion er mwyn adlewyrchu trawsdoriad ieuenctid f’etholaeth. Mae bod yn aelod o Fforymau Ieuenctid yr Urdd/Menter Gorllewin Caerfyrddin, Menter Dinefwr a Fforwm Cymreictod yr Ysgol yn ogystal a grwpiau all-daith Dug Caeredin a thim criced cymunedol wedi rhoi’r cyfle imi ddysgu gwrando ar safbwynt amrywiol pobl ifanc o bob oedran a chefndir cyn lleisio neges fy nghyd-ieuenctid. Credaf hefyd mod i’n unigolyn y gellid dibynnu arno i gyflawni’r hyn addewir a gobeithiaf allu drosglwyddo’r rhinweddau hyn i’m rol fel aelod o’r Senedd Ieuenctid pe bai eraill yn ymddiried eu pleidlais ynof i.

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 - 29/02/2024

Digwyddiadau calendr: Iestyn Jones