Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Rhian Shillabeer

Rhian Shillabeer

De Caerdydd a Phenarth

Roedd Rhian yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Rhian Shillabeer

Bywgraffiad

Roedd Rhian yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gwella'r amgylchedd
  • Gwell safonau byw yng Nghaerdydd
  • Pwysigrwydd y system addysg

Ni fu’r angen i gynrychioli lleisiau pobl ifanc erioed cymaint nac mor amlwg nag ydyw ar hyn o bryd. Trwy fod yn aelod o’r Senedd Ieuenctid, yn ogystal â sicrhau bod y pwysigrwydd newydd hwn yn parhau rwyf hefyd yn gobeithio y bydd yn canolbwyntio ar y gymuned o fy nghwmpas i. Mae angen i wleidyddiaeth fod yn agored i bawb.

Trwy bleidleisio drosof i, byddwch yn sicrhau y bydd pobl ifanc fel chi, ar lawr gwlad, yn cyflawni newid adnabyddadwy. Mae’r materion rwy’n bwriadu rhoi sylw iddyn nhw yn faterion sy'n peri pryder i chi nid yn unig fel person ifanc, ond fel person ifanc yng Nghaerdydd. Mae addysg, safonau byw a'r Amgylchedd yn dri phwnc o blith lawer sy’n bwysig ac yn hanfodol i'w trafod o ran cynrychioli pobl ifanc.

Byddaf yn gweithio'n uniongyrchol gydag aelodau o fy etholaeth mewn modd cyfeillgar ond proffesiynol, i wrando ar y ffactorau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae bod yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth yn golygu cynrychiolaeth, ond hefyd empathi a dealltwriaeth. Rwy'n gobeithio cael fy ethol er mwyn gwella fy ninas a gosod sylfaen i'r genhedlaeth iau dyfu ac adeiladu arno.

Diolch am gymryd yr amser i ddarllen fy natganiad, a ‘Pob Lwc’ i'r ymgeiswyr eraill!

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Rhian Shillabeer