Datganiad Ymgeisydd: Rwy'n byw ar fferm da byw yng nghanol Parc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fy mhrynciau allweddol fyddai amaethyddiaeth,
addysg a diwylliant.
Rwy'n credu y byddwn yn aelod addas o Senedd Ieuenctid Cymru, gan y byddwn
yn ymrwymedig i'r rôl ac yn angerddol dros fy mhrynciau allweddol. Byddwn yn
cael llawer o drafodaethau gyda phobl ifanc yn fy ardal a byddwn yn gwneud yn
siŵr bod eu lleisiau'n
cael eu clywed. Fel aelod o’r Senedd Ieuenctid, byddwn yn cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol a
chenedlaethol. Rwy'n berson llawn empathi a chefnogaeth, a byddwn yn cefnogi fy
nghyd-aelodau. Oherwydd fy ngwybodaeth helaeth am wleidyddiaeth a phynciau
eraill, byddwn yn gallu cyfrannu at amrywiaeth o drafodaethau a dadleuon.
Hoffwn fod yn aelod o'r senedd ieuenctid gan bod gennyf ddiddordeb mewn
gwleidyddiaeth, ac mewn bod yn llais i bobl ifanc yng Nghymru.