Roedd Rhys yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma eiddatganiad
pan oeddynymgeisyddyn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrifystyriaethau:
Iechyd
meddwlieuenctid
Gweithgareddauieuenctid
Cyllidoaddysg
Datganiad yr
ymgeisydd: Rwy’n angerddol am greu cymdeithas deg lle mae pawb yn cael eu trin
yn gyfartal ac yn meddu ar yr un cyfleoedd a llais ar faterion cyfoes.Yn hynny o beth, byddwn yn mwynhau bod yn aelod
o Senedd Ieuenctid Cymru ac fe fyddwn yn sicrhau fy mod yn defnyddio'r swydd yn
ddoeth i siarad â chymaint o bobl ifanc yn fy ardal â phosibl, er mwyn i mi
allu deall y materion perthnasol, a chyflwyno eu hachos gerbron Senedd Cymru.
Roeddwn yn
gynghorydd ysgol ar ddau achlysur yn fy ysgol gynradd, ac fe roddodd hynny
sgiliau da i mi o ran cyfathrebu a gweithio gydag eraill i gyflawni ein nodau.
Rwy'n cymryd rhan
yn rheolaidd mewn dadleuon yn yr ysgol, yn ogystal â gyda fy ffrindiau am
broblemau’r oes sydd ohoni ac yn teimlo y gallaf gyfleu fy safbwynt yn dda, ond
fy mod yn gallu ystyried safbwyntiau eraill hefyd.