Datganiad
Ymgeisydd: Er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth mewn amgylcheddau amrywiol, mae
angen addysg, amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant i feithrin parch i bawb, waeth
beth yw eu cefndir. Mae’r mater hwn yn agos at iechyd meddwl, gan fod llawer yn
cael trafferth gyda’r heriau hyn sy’n effeithio ar eu lles. Rydw i’n addas ar
gyfer y rôl hon oherwydd fy mhrofiadau personol a’m parodrwydd i wrando ar y
rheiny sy’n ofni lleisio pryderon. Mae fy nghefndir yn cynnwys prif gapten a
llysgennad gwrth-fwlio, ac ar hyn o bryd dw i’n gweithio gyda Speak Up Speak
Out, sy’n eirioli dros ddisgyblion sy’n wynebu bwlio, gwahaniaethu ac
aflonyddu. Fy mwriad yw cael trafodaethau un i un neu grŵp i rymuso pobl ifanc a chael effaith
bositif ar y gymuned, gan daflu golau ar y materion hanfodol hyn.