Roedd Ruben yn Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i
2024.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar
gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
Iechyd
Meddwl
Tlodi
Plant
Newid
Hinsawdd
Datganiad
Ymgeisydd:Helo. Fy enw i yw Ruben
Kelman ac rwy’n mynd i Ysgol Uwchradd Llanishen yng Nghaerdydd. Dros yr ychydig
flynyddoedd diwethaf, mae fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru a'r DU
wedi cynyddu, ac rydw i wedi sylweddoli cyn lleied o gynrychiolaeth a gaiff y
genhedlaeth iau. Dyna un o'r nifer o resymau yr wyf yn sefyll yn yr etholiad i
Senedd Ieuenctid Cymru. Un o'r prif faterion y byddwn yn canolbwyntio arno pe
bawn yn cael fy ethol fyddai tlodi ymhlith plant, gan fod 3 o bob 10 o bobl
ifanc yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac mae hynny'n ofnadwy ar sawl lefel. Rwyf
wedi clywed gan nifer o bobl ifanc yn fy ysgol pa mor anodd yw hi iddynt gael
prydau ysgol am ddim, ac mae hynny'n rhywbeth rydw i eisiau ei newid. Gallai un
pryd y dydd atal plentyn rhag llwgu. Mater enfawr arall ymysg pobl ifanc yw
iechyd meddwl. Mae'r pandemig wedi cael effeithiau hirdymor ar iechyd meddwl
llawer o bobl ifanc. O brofiad personol rwy'n gwybod faint y gall pethau fel
cwnsela helpu, ond rwyf hefyd yn gwybod pa mor anodd yw cael mynediad i'r
gwasanaethau hyn. Rwyf wedi ymgyrchu ers amser maith dros gynnig gwasanaethau
iechyd meddwl yn gyffredinol yn ysgolion Cymru. Pleidleisiwch dros Ruben Kelman
ar gyfer Gogledd Caerdydd. Diolch