Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ruben Kelman

Ruben Kelman

Gogledd Caerdydd

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd Meddwl
  • Tlodi Plant
  • Newid Hinsawdd

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ruben Kelman

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd:  Helo. Fy enw i yw Ruben Kelman ac rwy’n mynd i Ysgol Uwchradd Llanishen yng Nghaerdydd. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru a'r DU wedi cynyddu, ac rydw i wedi sylweddoli cyn lleied o gynrychiolaeth a gaiff y genhedlaeth iau. Dyna un o'r nifer o resymau yr wyf yn sefyll yn yr etholiad i Senedd Ieuenctid Cymru. Un o'r prif faterion y byddwn yn canolbwyntio arno pe bawn yn cael fy ethol fyddai tlodi ymhlith plant, gan fod 3 o bob 10 o bobl ifanc yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac mae hynny'n ofnadwy ar sawl lefel. Rwyf wedi clywed gan nifer o bobl ifanc yn fy ysgol pa mor anodd yw hi iddynt gael prydau ysgol am ddim, ac mae hynny'n rhywbeth rydw i eisiau ei newid. Gallai un pryd y dydd atal plentyn rhag llwgu. Mater enfawr arall ymysg pobl ifanc yw iechyd meddwl. Mae'r pandemig wedi cael effeithiau hirdymor ar iechyd meddwl llawer o bobl ifanc. O brofiad personol rwy'n gwybod faint y gall pethau fel cwnsela helpu, ond rwyf hefyd yn gwybod pa mor anodd yw cael mynediad i'r gwasanaethau hyn. Rwyf wedi ymgyrchu ers amser maith dros gynnig gwasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol yn ysgolion Cymru. Pleidleisiwch dros Ruben Kelman ar gyfer Gogledd Caerdydd. Diolch

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Ruben Kelman