Roedd Sophie yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Effeithiau
negyddol y cyfryngau cymdeithasol
- Materion pobl
fyddar
- Gostwng yr oed
pleidleisio
Helo, fy enw i yw Sophie Billinghurst ac rwy'n 16 oed. Rwy'n byw yn
Fforestfach, yng ngorllewin Abertawe. Ar hyn o bryd, rwy'n fyfyriwr ym mlwyddyn
11 yn Ysgol Gyfun Bishop Gore ac yn astudio ar gyfer fy arholiadau TGAU.
Rwy'n aelod o grŵp
Talking Hands yn Hafod, Abertawe, sef canolfan i blant a phobl ifanc byddar a
thrwm eu clyw a'u teuluoedd. Mae'r grŵp yn rhoi cymorth iddynt, yn ogystal â chyfle i gwrdd â theuluoedd eraill sy'n
wynebu'r un sefyllfaoedd. Rwyf wedi bod yn rhan o Talking Hands ers tair blynedd
a hanner. Y rheswm y dechreuais i a fy nheulu fynd i Talking Hands yw bod
Charli, fy chwaer, sy'n 12 oed, yn drwm ei chlyw.
Ers hynny, rwyf wedi gwneud cymaint o ffrindiau, ac rwyf wedi cymryd rhan
mewn llwyth o ddigwyddiadau anhygoel fel mynd i barc saffari a Folly Farm, yn
ogystal â mynd i bartïon Nadolig a Chalan Gaeaf.
Yn ddiweddar, rwyf wedi ennill cymhwyster lefel 1 Iaith Arwyddion Prydain,
a oedd yn bwysig iawn i mi oherwydd fy mod am ddysgu'r iaith hon i fy nheulu a
ffrindiau er mwyn iddyn nhw allu rhannu'r wybodaeth hon â phobl eraill.