Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Sophie Billinghurst

Sophie Billinghurst

Talking Hands

Roedd Sophie yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Y Cyfarfod Llawn | 24/02/2021

Y Cyfarfod Llawn | 24/02/2021

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Sophie Billinghurst

Bywgraffiad

Roedd Sophie yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Effeithiau negyddol y cyfryngau cymdeithasol
  • Materion pobl fyddar
  • Gostwng yr oed pleidleisio

Helo, fy enw i yw Sophie Billinghurst ac rwy'n 16 oed. Rwy'n byw yn Fforestfach, yng ngorllewin Abertawe. Ar hyn o bryd, rwy'n fyfyriwr ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Bishop Gore ac yn astudio ar gyfer fy arholiadau TGAU.

Rwy'n aelod o grŵp Talking Hands yn Hafod, Abertawe, sef canolfan i blant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw a'u teuluoedd. Mae'r grŵp yn rhoi cymorth iddynt, yn ogystal â chyfle i gwrdd â theuluoedd eraill sy'n wynebu'r un sefyllfaoedd. Rwyf wedi bod yn rhan o Talking Hands ers tair blynedd a hanner. Y rheswm y dechreuais i a fy nheulu fynd i Talking Hands yw bod Charli, fy chwaer, sy'n 12 oed, yn drwm ei chlyw.

Ers hynny, rwyf wedi gwneud cymaint o ffrindiau, ac rwyf wedi cymryd rhan mewn llwyth o ddigwyddiadau anhygoel fel mynd i barc saffari a Folly Farm, yn ogystal â mynd i bartïon Nadolig a Chalan Gaeaf.

Yn ddiweddar, rwyf wedi ennill cymhwyster lefel 1 Iaith Arwyddion Prydain, a oedd yn bwysig iawn i mi oherwydd fy mod am ddysgu'r iaith hon i fy nheulu a ffrindiau er mwyn iddyn nhw allu rhannu'r wybodaeth hon â phobl eraill.

Digwyddiadau calendr: Sophie Billinghurst