Roedd Sultan yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd
yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Darpariaeth Canolfannau
Cymorth Iechyd Meddwl
- Dod o hyd
i gyflogaeth ôl-16
- Diffyg darpariaeth
Clybiau Ieuenctid
Datganiad ymgeisydd: Fy enw i yw Sultan
Awolumate, rwy'n dod o Nigeria, ac rwy'n byw yn
Abertawe. Rwyf wedi dod yn bell ers i mi gyrraedd a dwi wedi dysgu llawer drwy
fy mhrofiadau.
Rwyf am fod yn llais i bobl ifanc.
Byddwn yn gwneud Aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru
oherwydd rwy’n gallu deall brwydr pobl, gan fy mod i’n dod o gefndir gwahanol i
lawer o bobl ifanc, rwy'n deall pa mor anodd yw dod i wlad dramor a gorfod
dysgu iaith newydd ac efelychu'r amgylchedd. Fel Aelod o SIC, byddaf yn sicrhau
bod lleisiau pobl ifanc sy’n rhan o Brosiect Belong
TGP Cymru yn cael eu clywed i helpu i ddylanwadu ar newid cadarnhaol.
Mae tri mater sy’n ymddangos yn amlwg i mi eu bod yn
effeithio ar bobl ifanc heddiw. Hoffwn godi ymwybyddiaeth am ddiffyg cefnogaeth
i bobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl, pa mor anodd yw hi i ni ddod o
hyd i gyflogaeth ôl-16, a’r diffyg clybiau ieuenctid sydd mor bwysig er mwyn
gwneud ffrindiau ac ar gyfer llesiant. Mae'r materion hyn yn effeithio ar
ffoaduriaid ifanc a'r rhai sy'n ceisio lloches a thrwy wrando ar yr hyn y maent
yn ei ddweud rwy'n gobeithio y gallaf helpu i fod yn llais ar eu rhan a
chyfrannu i wneud pethau’n well.