Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Sultan Awolumate

Sultan Awolumate

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Tros Gynnal Plant Cymru

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Darpariaeth Canolfannau Cymorth Iechyd Meddwl
  • Dod o hyd i gyflogaeth ôl-16
  • Diffyg darpariaeth Clybiau Ieuenctid

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Sultan Awolumate

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Fy enw i yw Sultan Awolumate, rwy'n dod o Nigeria, ac rwy'n byw yn Abertawe. Rwyf wedi dod yn bell ers i mi gyrraedd a dwi wedi dysgu llawer drwy fy mhrofiadau.

Rwyf am fod yn llais i bobl ifanc.

Byddwn yn gwneud Aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rwy’n gallu deall brwydr pobl, gan fy mod i’n dod o gefndir gwahanol i lawer o bobl ifanc, rwy'n deall pa mor anodd yw dod i wlad dramor a gorfod dysgu iaith newydd ac efelychu'r amgylchedd. Fel Aelod o SIC, byddaf yn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc sy’n rhan o Brosiect Belong TGP Cymru yn cael eu clywed i helpu i ddylanwadu ar newid cadarnhaol.

Mae tri mater sy’n ymddangos yn amlwg i mi eu bod yn effeithio ar bobl ifanc heddiw. Hoffwn godi ymwybyddiaeth am ddiffyg cefnogaeth i bobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl, pa mor anodd yw hi i ni ddod o hyd i gyflogaeth ôl-16, a’r diffyg clybiau ieuenctid sydd mor bwysig er mwyn gwneud ffrindiau ac ar gyfer llesiant. Mae'r materion hyn yn effeithio ar ffoaduriaid ifanc a'r rhai sy'n ceisio lloches a thrwy wrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud rwy'n gobeithio y gallaf helpu i fod yn llais ar eu rhan a chyfrannu i wneud pethau’n well.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Sultan Awolumate