Datganiad Ymgeisydd: Rwy'n angerddol iawn dros achosion sy'n agos at fy
nghalon, ac rwy’n fedrus ac yn hyfedr wrth sicrhau bod fy llais yn cael ei
glywed ac wrth siarad o blaid eraill.
Ar ôl imi ddechrau yn yr ysgol hŷn, ces i fy annog gan athrawon i ymuno â chymdeithas ffeministaidd, sydd fel arfer
ar gyfer disgyblion y chweched yn unig. Yno, rydym yn trafod materion byd-eang
a sut maen nhw’n
ymwneud â
hawliau menywod. Rwyf hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth arbennig am fod yn
ymgeisydd enghreifftiol i’r
Cenhedloedd Unedig ar ôl
cynhadledd ddiweddar yn fy ysgol. Rwy'n mwynhau gallu dadlau ag eraill ac rwyf
wedi dysgu llawer drwy wneud hyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn yr ysgol hŷn.
Byddaf yn siarad â phobl ifanc eraill yng Nghymru ac yn gwrando arnyn nhw
drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac mewn digwyddiadau ieuenctid lleol. Byddaf yn
dysgu beth sy’n tanio angerdd pobl trwy gynnal arolygon ar-lein a thrwy
hyrwyddo fy hun mewn ffordd sy’n rhoi’r hyder i bobl wybod y byddaf yn siarad
o’u plaid.
Byddwn wrth fy modd yn gallu cynrychioli fy ardal yn y Senedd Ieuenctid a
byddwn yn eiddgar i siarad â phobl eraill am y problemau sydd o bwys iddyn nhw.