Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Tilly Jones

Tilly Jones

Brycheiniog a Sir Faesyfed

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cydraddoldeb o ran rhywedd
  • Gwella iechyd meddwl plant/pobl ifanc
  • Gofal/parch at yr Amgylchedd

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Tilly Jones

Bywgraffiad

Datganiad yr ymgeisydd: Hoffwn i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan fy mod eisiau gwneud gwahaniaeth. Rwy'n hyderus iawn ac fydda i ddim yn oedi cyn siarad am yr hyn sy'n iawn yn fy marn i. Os pleidleisiwch drosof i, fe fydda i’n gwneud yn siŵr y bydd gwahaniaeth yn cael ei wneud. Fe fydda in helpu lleisiau pobl ifanc ledled Cymru i gael eu clywed. Fe fydda i’n cyrraedd pobl sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel bod eu lleisiau'n sicr o gael eu clywed. Rydw i eisoes wedi cael effaith yn fy ysgol drwy fod yn gynrychiolydd blwyddyn.

 Rwy’n credu bod rhywiaeth yn broblem enfawr mewn ysgolion ledled Cymru. Er enghraifft mewn gwersi addysg gorfforol rhaid i ferched wneud gwahanol chwaraeon i fechgyn ac i'r gwrthwyneb. Ni ddylai rhywedd eich cyfyngu na'ch diffinio.

Fel person ifanc fy hun, gwn fod iechyd meddwl yn broblem. Dylai plant allu cael rhywun i siarad â nhw fel nad ydyn nhw'n teimlo'n unig.

Wrth i'r pandemig gychwyn mae'r amgylchedd wedi dod yn fwy glân ond wrth inni ddechrau dod yn ôl i normalrwydd ni fydd yn aros felly. Rydw i am helpu plant i fynd allan i'r awyr agored a glanhau'r amgylchedd. Os caf fy ethol fe fydda i’n sicrhau fy mod yn annog mwy o gasglu sbwriel yn fy ardal.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 - 29/02/2024

Digwyddiadau calendr: Tilly Jones