Roedd Tobias yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma eu datganiad
pan oeddent yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Hawliau LHDTC+
- Gweithredu ar yr hinsawdd
- Anghydraddoldeb o ran cyfoeth
Datganiad
ymgeisydd: Mae bod yn berson ifanc yn eich arddegau yng Nghymru fodern yn dra
gwahanol i’r bywyd yr oedd ein rhieni yn ei adnabod, mewn nifer o ffyrdd. O ddiwedd
y Rhyfel Oer i gynnydd Technoleg Fawr, mae ein bywydau wedi cael eu newid am
byth. Mater i’r bobl ifanc heddiw yw helpu i newid y wlad hon, felly byddai
cael fy ethol i fod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid yn caniatáu i bobl fel fi fod
ar flaen y gad o ran newid cymdeithasol.
Rwyf am
gynrychioli'r bobl yr wyf i wedi tyfu i fyny gyda nhw, eu barn, eu pryderon a
gwneud newid ystyrlon i'w bywydau. Eu profiadau nhw yw’r rhai yr wyf am wrando
arnynt, a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol rwy'n
gobeithio cael dealltwriaeth ehangach o sut y gallaf eu cynrychioli.
O fod yn olygydd
papur newydd yr ysgol, i siarad yng Nghynadleddau Cenhedloedd Unedig Model
Rhyngwladol, rwyf wedi profi llawer o bethau sydd wedi rhoi gwybodaeth fyd-eang
i mi. Mae’r profiadau hyn, ar y cyd â’m canfyddiad o’r byd fel unigolyn LHDTC+
agored, yn fy ngwneud i’n berson delfrydol i siarad ar ran pobl ifanc Cymru.
Mae yna fyd gwell
y gallwn ni ei adeiladu, ac rwyf i am gynrychioli pawb ynddo, drwy eich
pleidlais chi dros fyfyriwr o Gymru.