Roedd Todd yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Materion
amgylcheddol
Materion iechyd
meddwl
Materion addysg
Hoffwn redeg dros Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy mod yn credu bod gyda
fi’r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i gynrychioli'r ifanc yn fy Etholaeth.
Os caf i fy ethol, byddaf yn siarad â phobl ifanc yn fy ardal trwy’r cyfryngau
cymdeithasol a’r ebost, a hefyd cyfarfodydd rheolaidd gyda Chynghorau Ysgol
lleol a Chyngor Ieuenctid yr ardal.
Fel aelod o gyngor Ieuenctid Pen-y-bont, fy Nghyngor Myfyrwyr yn yr ysgol a
gwahanol sefydliadau eraill fel clwb achub bywyd y Sger, rwy'n credu fy mod
wedi ennill y sgiliau sydd eu hangen i gynrychioli'ch barn chi i'r Senedd
Ieuenctid. Rwyf wedi cynrychioli yr elusen LATCH mewn cystadleuaeth first give,
lle wnes i fel arweinydd tîm ennill £1000 iddyn nhw diolch i fy ngwaith grŵp mewn siarad cyhoeddus. Rwyf hefyd wedi cymryd
rhan mewn llawer o gystadlaethau dadlau ac rwy'n siŵr y gallaf gynrychioli a dadlau drosoch yn
y Senedd Ieuenctid.
Rwy’n credu nid yn unig fod gyda fi’r cymwysterau i wneud y rôl hon
oherwydd fy mhrofiad, ond hefyd oherwydd byddaf yn gwrando ar y safbwyntiau
sydd gyd chi a’u cynrychioli a'u hamddiffyn nhw yn angerddol yn y senedd
ieuenctid, mwy na’r rhan fwyaf o ymgeiswyr oherwydd byddaf yn gwerthfawrogi
eich barn.