Polisi Preifatrwydd

Cyhoeddwyd 01/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Senedd Ieuenctid Cymru: Hysbysiad Preifatrwydd Cryno

Ymweld Hysbysiad Preifatrwydd Llawn

Beth yw Senedd Ieuenctid Cymru?

Sefydlwyd Senedd Ieuenctid Cymru (SIC yn fyr) yn 2018 i roi llais i bobl ifanc yng Nghymru.  Mae'n cynnwys chwe deg aelod unigol, sydd naill ai wedi cael eu hethol gan bobl ifanc yn rhanbarthol neu wedi cael eu hethol gan bobl ifanc o sefydliadau partner.

Caiff SIC ei rhedeg a’i rheoli gan sefydliad o'r enw Comisiwn y Senedd, sef y Comisiwn fel yr ydym ni’n ei alw.

 

Beth yw DIBEN YR HYSBYSIAD preifatrwydd cryno hwn?

Os byddwch chi'n cysylltu â SIC neu aelodau unigol o SIC, yna gellir casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi.  Mae'r hysbysiad cryno hwn yn dweud wrthych pa wybodaeth bersonol ellir ei chasglu amdanoch chi, sut y caiff ei defnyddio a beth yw eich hawliau.

Yn yr hysbysiad hwn, pan fyddwn yn dweud gwybodaeth bersonol, rydym yn golygu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â chi.  Gallai hyn fod yn unrhyw beth o'ch enw, eich cyfeiriad neu eich rhif ffôn i wybodaeth fanylach am eich iechyd, eich diddordebau neu eich barn.

 

Pam fod Senedd Ieuenctid Cymru yn casglu ac yn defnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Mae SIC yn gyfle i bobl ifanc yng Nghymru gael eu clywed.  Felly, rydym am glywed gennych chi am y materion sy'n bwysig i chi. 

Rydym yn eich annog chi i siarad gyda'ch Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru (ASICau yn fyr) a dweud wrthynt beth ydych yn ei feddwl.  Gellir gwneud hyn yn uniongyrchol mewn digwyddiadau a drefnwn, trwy’r e-bost neu ar y cyfryngau cymdeithasol, neu drwy gwblhau arolygon yr ydym wedi'u sefydlu.  Gallwch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf am waith SIC trwy gofrestru i gael ein cylchlythyr https://www.seneddieuenctid.cymru/cymryd-rhan

 

Pa wybodaeth y mae Senedd Ieuenctid Cymru yn ei chasglu a'i defnyddio?

Os hoffech, gallwch godi materion yn ddienw.  Fodd bynnag, byddwn fel arfer yn gofyn ichi ddarparu rhywfaint o wybodaeth bersonol, fel eich enw, eich ysgol neu'r ardal rydych chi'n byw ynddi.  Gallwch ddewis a ydych yn mynd i roi'r wybodaeth hon i ni ai peidio.

Os ydych chi am gadw mewn cysylltiad â ni, bydd angen i chi hefyd ddarparu eich manylion cyswllt (fel cyfeiriad e-bost).

 

Pwy sy'n gyfrifol?

Rhaid i bob sefydliad sy'n casglu a defnyddio gwybodaeth am unigolion ufuddhau wrth reolau penodol.  Y Comisiwn sy’n rhedeg SIC ac felly’r corff hwnnw sy’n bennaf gyfrifol am ufuddhau wrth y rheolau hyn.  Mewn rhai amgylchiadau, bydd y Comisiwn ac ASICau unigol yn gyfrifol. Mae ein datganiad 'Cyfrifoldebau' yn esbonio hyn yn fanylach.

 

Beth yw fy hawliau?

Os ydych chi wedi rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i'r Comisiwn neu i ASICau unigol yna mae gennych chi rai hawliau penodol.  Mae'r rhain yn cynnwys yr hawl i gael gwybod am yr hyn y mae'r Comisiwn a'r ASICau unigol yn ei wneud â'ch gwybodaeth, yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir a'r hawl i ofyn am gopïau o'ch gwybodaeth.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am eich hawliau yn yr hysbysiad llawn.

 

 phwy ddylwn i gysylltu?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad hwn neu os ydych am fanteisio ar eich hawliau, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Comisiwn yn  Data.Diogelu@senedd.cymru.