Hysbysiad Preifatrwydd Enwebiadau Ymgeisydd

Cyhoeddwyd 27/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/06/2024

Sut Y Byddwn Ni'n Defnyddio Dy Wybodaeth?

Pwy Ydym Ni

Comisiwn y Senedd yw’r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth yr ydych yn ei darparu, a bydd yn sicrhau y caiff ei diogelu a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch ein defnydd o dy wybodaeth at Swyddog Diogelu Data'r Senedd:
diogelu.data@senedd.cymru
Swyddog Diogelu Data
Senedd Cymru
Tŷ Hywel
Caerdydd
CF99 1SN

0300 200 6494

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?

Byddwn ni’n defnyddio dy gyfeiriad post, dy gyfeiriad e-bost, dy rif ffôn, dy fan dysgu, a dy ddyddiad geni er mwyn prosesu dy enwebiad i sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Tachwedd 2024. Ni chaiff y manylion hyn eu cyhoeddi.

Bydd dy enw, dy ddatganiad ymgeisydd, dy ffotograff, dy etholaeth o ddewis a'r tri mater o bwys rwyt ti wedi’u dewis yn ymddangos ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru a byddant hefyd yn cael eu rhannu gyda'r holl bobl ifanc hynny sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholaeth rwyt ti'n sefyll drosti.

Lle bo hynny'n berthnasol, efallai y bydd angen inni hefyd brosesu gwybodaeth am unrhyw gollfarnau troseddol, rhybuddion neu orchmynion mewn perthynas â throseddau perthnasol a allai fod gen ti neu rwyt ti'n destun iddyn nhw. Os wyt ti’n nodi bod gen ti gollfarn droseddol, dy fod wedi bod yn destun rhybudd neu orchymyn mewn perthynas â throsedd berthnasol, bydd angen inni gysylltu â thi i gael rhagor o wybodaeth er mwyn canfod a wyt ti’n gymwys i sefyll yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru. Dim ond gwybodaeth sy'n angenrheidiol inni ddod i benderfyniad y byddwn yn ei chasglu ac ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi.

Assembly Voting yw'r sefydliad sy'n rheoli'r broses etholiadol ar ran Comisiwn y Senedd (“y Comisiwn”). Mae manylion am sut y bydd Assembly Voting yn defnyddio ac yn diogelu dy wybodaeth ar gael yma https://assemblyvoting.com/privacy/.

Ar y dudalen enwebu, byddi di hefyd yn cael cyfle i optio i mewn i gael gwybodaeth sy'n gysylltiedig â’r Senedd Ieuenctid y tu hwnt i gwmpas yr etholiad, gan gynnwys y newyddion a'r cyfleoedd diweddaraf i gyfrannu at waith Senedd Ieuenctid Cymru, megis drwy arolygon a digwyddiadau. Nid oes rhaid i ti optio i mewn i allu cofrestru fel ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd Ieuenctid a gelli di optio allan ar unrhyw adeg fel y nodir yn yr adran 'Pam rydym yn ei chasglu?' o’r hysbysiad hwn.

Pam rydyn ni'n casglu'r wybodaeth hon?

Bydd dy wybodaeth yn cael ei phrosesu fel y gallwn ni gynnal etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru yn llwyddiannus. Mae Senedd Ieuenctid Cymru fenter allweddol sy’n helpu i alluogi'r Senedd i ymgysylltu â phobl ifanc yng Nghymru, yn ailddatgan ymrwymiad y Comisiwn i ymgysylltu â phobl ifanc ac yn parhau i gryfhau ein strategaeth ymgysylltu â phobl ifanc i fuddsoddi yn nyfodol democratiaeth Cymru.

Bydd dy wybodaeth yn cael ei defnyddio i gofrestru dy fanylion ar gyfer sefyll yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru. Bydd rhywfaint o wybodaeth am ymgeiswyr hefyd yn cael ei rhannu gyda'r cyhoedd a'r rhai sydd am bleidleisio yn yr etholiad er mwyn eu galluogi i wneud dewis gwybodus ynghylch pwy maen nhw am bleidleisio drosto yn yr etholiad.

Bydd unrhyw wybodaeth mewn perthynas â chollfarnau troseddol, rhybuddion a gorchmynion yr wyt ti’n destun iddyn nhw yn cael eu defnyddio gan y Comisiwn i benderfynu a wyt ti’n gymwys i sefyll.

Pwy fydd yn cael mynediad at wybodaeth?

Mae'r Comisiwn yn defnyddio sefydliad trydydd parti o'r enw Assembly Voting i reoli proses etholiadol Senedd Ieuenctid Cymru a bydd yn cadw ac yn prosesu dy wybodaeth a gesglir fel rhan o'r Ffurflen Enwebu ar gyfer y broses hon. Bydd gan y Comisiwn hefyd fynediad at y wybodaeth hon ac yn ei chadw'n ddiogel rhag ofn y bydd angen inni gysylltu â thi.

Os wyt ti’n nodi yn y Ffurflen Enwebu fod gen ti gollfarn droseddol, neu dy fod yn destun rhybudd neu orchymyn mewn perthynas â throsedd berthnasol nawr neu yn y gorffennol, bydd angen i’r Comisiwn gasglu rhagor o wybodaeth mewn perthynas â hyn er mwyn penderfynu a wyt ti’n gymwys i sefyll yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru. Dim ond i'r ateb 'ie' neu 'na' a ddarperir fel rhan o'r Ffurflen Enwebu mewn perthynas â chollfarnau troseddol, rhybuddion neu orchmynion y bydd Assembly Voting yn cael mynediad ato.

Dim ond y Comisiwn fydd yn gallu gweld unrhyw wybodaeth bellach a gesglir gan y Comisiwn er mwyn ein galluogi ni i wneud penderfyniad ynghylch cymhwysedd i sefyll ac ni fydd Assembly Voting yn gallu gweld y wybodaeth hon na’i chadw.

A fydd y wybodaeth yn cael ei rannu neu ar gael i'r cyhoedd?

Bydd dy enw, dy ddatganiad ymgeisydd, dy ffotograff, dy etholaeth o'th ddewis a'r tri mater o bwys rwyt ti wedi'u dewis yn ymddangos ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru ac ar gael i'r cyhoedd. Gall y wybodaeth hon aros ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru am gyfnod amhenodol. Bydd hefyd yn cael ei rhannu gyda'r holl bobl ifanc hynny sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholaeth rwyt ti'n sefyll drosti.

Ni fydd yr holl fanylion cyswllt eraill, dy ddyddiad geni ac unrhyw wybodaeth am gollfarnau troseddol, rhybuddion a gorchmynion yr wyt ti’n destun iddyn nhw yn cael eu cyhoeddi na'u rhannu ag unrhyw drydydd parti arall oni bai ein bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith.

Ble y bydd y wybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd Assembly Voting yn cadw data y mae ganddo fynediad atynt ar ei system TGCh ddiogel yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir. Mae rhagor o wybodaeth am sut y bydd Assembly Voting yn cadw’r wybodaeth honno ar gael yn y linc uchod.

Bydd gwybodaeth a gaiff ei storio gan y Comisiwn yn cael ei storio’n ddiogel ar ein systemau TGCh, sy’n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft. Bydd unrhyw drosglwyddiad data gan Microsoft y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd. I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd Microsoft yn defnyddio dy wybodaeth, dylet ddarllen y polisi preifatrwydd yma.

Am ba hyd y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth hon?

Caiff yr holl wybodaeth a gesglir fel rhan o’r Ffurflen Enwebu ei chadw ar weinyddwyr diogel Assembly Voting, a leolir yn y DU am y tymor o ddwy flynedd ar ôl yr etholiad (4-24 Tachwedd), ac ar ôl hynny bydd y wybodaeth yn cael ei dileu’n ddiogel.

Bydd gan y Comisiwn fynediad at y wybodaeth rwyt ti wedi'i chyflwyno a bydd yn ei chadw ar ei weinyddion ei hun drwy gydol y tymor dwy flynedd, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei dileu.

Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chadw fel ein bod yn gallu ymdrin ag unrhyw anghydfodau etholiad a allai godi yn ystod trydydd tymor Senedd Ieuenctid Cymru, gan gynnwys cysylltu ag ymgeiswyr wrth gefn pe bai'r ymgeisydd ‘cyntaf i’r felin’ yn camu i lawr am unrhyw reswm. Defnyddir y wybodaeth hefyd at ddibenion prosesu dy enwebiad, a chysylltu â thi yn ystod y cyfnod enwebu, yr etholiad a chyhoeddi'r aelodau, a thrydydd tymor Senedd Ieuenctid Cymru a ddaw i ben ym mis Ebrill 2027.

Fel y nodir uchod, bydd angen i'r Comisiwn gasglu gwybodaeth bellach gen ti os byddi di’n nodi bod gen ti gollfarn droseddol, neu dy fod wedi bod yn destun rhybudd neu orchymyn mewn perthynas â throsedd berthnasol. Yn dilyn trafodaeth gyda thi, caiff nodyn cryno cyfyngedig ei lunio. Bydd y nodyn hwn yn cofnodi peth o'r wybodaeth rwyt ti'n ei darparu sy'n ofynnol gennym ni er mwyn dod i benderfyniad ynghylch dy gymhwysedd i sefyll fel ymgeisydd yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru, yn ogystal â gwybodaeth am ein penderfyniadau lle bo hynny'n berthnasol. Ni fydd gwybodaeth nad yw'n angenrheidiol i ddod i benderfyniad a gwybodaeth am drydydd partïon yn cael ei chofnodi na'i chadw.

Ni waeth beth fo penderfyniad y Comisiwn mewn perthynas â dy gymhwysedd i sefyll fel ymgeisydd, bydd y wybodaeth ti’n ei rhoi fel rhan o'r Ffurflen Enwebu yn cael ei chadw yn unol â'n cyfnod cadw arferol, h.y. am hyd y tymor dwy flynedd.

O ran penderfyniadau ynghylch cymhwysedd, os bernir bod ymgeisydd y mae nodyn cryno (fel y’i disgrifir uchod) yn ymwneud ag ef yn gymwys i sefyll yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru a’i fod yn cael ei ethol wedi hynny yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, bydd y nodyn cryno hwnnw yn cael ei gadw drwy gydol tymor perthnasol y Senedd Ieuenctid. Y rheswm am wneud hyn yw fel y gallwn gyfeirio ato yn ystod tymor y Senedd Ieuenctid pe bai angen (h.y. trydydd tymor y Senedd Ieuenctid sy’n dod i ben ym mis Ebrill 2027), er enghraifft pe bai rhywbeth yn digwydd a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyfeirio at y manylion hynny. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, caiff y wybodaeth yn y nodyn cryno hwnnw ei dileu.

O ran nodiadau cryno sy’n ymwneud ag ymgeiswyr y bernir eu bod yn gymwys i sefyll yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru nad ydynt yn cael eu hethol wedi hynny yn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, byddant yn cael eu cadw am chwe mis ar ôl diwedd etholiad y Senedd Ieuenctid, ac wedi hynny caiff y wybodaeth yn y nodiadau cryno hynny ei dileu.

Dy Hawliau

 Mae gen ti hawliau penodol dros y wybodaeth sydd gennym. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • yr hawl i wneud cais i gael gweld dy wybodaeth;
  • yr hawl i ofyn inni ddiweddaru, cwblhau neu gywiro dy wybodaeth os yw'n anghywir neu'n anghyflawn;
  • yr hawl i ofyn inni beidio â defnyddio dy wybodaeth mewn rhai amgylchiadau;
  • yr hawl i ofyn inni ddefnyddio dim ond ychydig o'r wybodaeth amdanat mewn rhai amgylchiadau.

Os hoffet ti ymgysylltu ag unrhyw un o'r hawliau sydd gen ti o dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae croeso iti gysylltu dros e-bost diogelu.data@senedd.cymru.

Ein seiliau cyfreithiol ar gyfer casglu, cadw a defnyddio dy wybodaeth bersonol

Mae cyfraith diogelu data yn nodi seiliau cyfreithiol amrywiol sy’n caniatáu i ni gasglu, cadw a defnyddio dy wybodaeth bersonol. At ddibenion y wybodaeth bersonol a ddarperir gen ti, rydyn ni’n dibynnu ar y ffaith bod y prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd.

Nid yw Senedd Ieuenctid Cymru yn endid cyfreithiol ynddi ei hun, ond fe'i sefydlwyd i ganiatáu i bobl ifanc yng Nghymru leisio eu barn, ac er mwyn rhoi profiad uniongyrchol i bobl ifanc o’r modd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio. Mae'n weithgaredd sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi ymgysylltiad democrataidd.

Mae gan y Comisiwn swyddogaeth hefyd i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Senedd at ei dibenion, ac mae darparu'r llwyfan hwn i bobl ifanc yn helpu i'w haddysgu am sut mae'r Senedd, fel y Senedd genedlaethol, yn gweithredu a'r gwaith y mae'n ei wneud.

Mae gan y Comisiwn swyddogaeth bellach i hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o unrhyw system gyfredol neu arfaethedig ar gyfer ethol Aelodau o'r Senedd a gall gynnal rhaglenni addysg i hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r system etholiadol. Mae cynnal etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru yn helpu i addysgu a hyrwyddo'r system ar gyfer etholiadau Senedd i bobl ifanc drwy, er enghraifft, ddefnyddio etholaethau etholiadol y Senedd. Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi cael ei haddasu lle bo angen, er mwyn darparu ar gyfer ymgeiswyr a enwebir gan sefydliadau partner, yn hytrach na darparu seddi rhanbarthol.

Yn ogystal, rydym yn cynnig y cyfle i ti danysgrifio i ddiweddariadau pellach am y Senedd Ieuenctid a'i gwaith. Os byddi di’n optio i mewn, byddwn yn defnyddio dy wybodaeth gyswllt i roi'r diweddariadau hyn i ti. Defnyddir dy fanylion cyswllt yn y modd hwn yn seiliedig ar dy gytundeb, a elwir yn 'gydsyniad'.

Gei di optio allan ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod yr etholiad drwy fewngofnodi i dy gyfrif a dileu’r tic o’r blwch ticio. Yn dilyn cyfnod yr etholiad, gei di optio allan drwy gysylltu â ni yn helo@seneddieuenctid.cymru. I gael gwybod mwy am yr hyn y byddwn yn ei wneud gyda dy ddata pan fyddi di’n optio i mewn, gweler ein hysbysiad preifatrwydd llawn ar gyfer y Senedd Ieuenctid yma.

Efallai y byddwn ni’n prosesu data personol categori arbennig os byddi di'n dewis darparu unrhyw rai, fel yn dy ddatganiad ymgeisydd neu yn dy ffotograff. Diffinnir data personol categori arbennig fel rhai sy'n cynnwys data sy'n datgelu cefndir unigolion o ran hil neu darddiad ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, cyfeiriadedd rhywiol a data am iechyd.

Bydd y data personol hyn yn cael eu prosesu ar y sail bod hynny’n angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd, a ystyrir fel arfer ar y cyd ag adran 10(3) a pharagraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018. Mae hyn er mwyn ein galluogi ni i brosesu'r data hyn i'r graddau y mae angen inni at ddibenion etholiad Senedd Ieuenctid Cymru, yn ogystal â chaniatáu iti sefyll ar faterion a allai gynnwys prosesu dy ddata personol categori arbennig. Lle mae data personol categori arbennig yn rhyngweithio â data troseddau (gweler isod), efallai y bydd angen i ni ddibynnu ar baragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018.

Yn olaf, bydd angen inni brosesu dy ddata personol sy'n ymwneud â chollfarnau troseddol a throseddau, lle bo hynny'n berthnasol, er mwyn canfod a wyt ti'n gymwys i sefyll yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru. Bydd y data hyn yn cael eu prosesu ar y sail bod hynny’n angenrheidiol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd, a ystyrir ar y cyd â pharagraffau 6 a 10 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018.

Cais am Wybodaeth

Os gwneir cais am wybodaeth dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r cyfan neu rywfaint o’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.

Sut i Gwyno

Gelli di gwyno i’r Swyddog Diogelu Data os wyt ti’n anfodlon ar sut rydyn ni wedi defnyddio dy ddata. Ceir y manylion cyswllt uchod.

Ar ôl cwyno, os byddi di’n parhau i fod yn anfodlon ar ein hymateb, gei di hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae manylion cyswllt y Swyddfa ar gael ar ei gwefan.