Pwy a beth

Mae'n dechrau gyda ti

Siarad am y pethau rwyt ti eu heisiau a’u hangen, codi’r materion sy’n bwysig i ti.

Defnyddia Senedd Ieuenctid Cymru fel llwyfan i godi dy lais. Ar gyfer eich dyfodol chi.

AR BETH Y BYDDI'N PLEIDLEISIO

60 o bobl ifanc rhwng 11 a 17 oed yw eich Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.

Etholwyd 40 gennych drwy bleidleisio yn ein hetholiad. Cafodd y 20 arall eu hethol gan bobl Ifanc o sefydliadau partner.

Drwy roi’r senedd at ei gilydd fel hyn, roeddem yn gallu sicrhau bod gennym gynrychiolaeth o grwpiau amrywiol o bobl Ifanc.

EI RHEDEG GENNYT TI

Chi fydd yn dewis pa faterion y bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn codi ymwybyddiaeth ohonynt.

Cânt eu cefnogi gan y bobl ifanc rydych wedi eu dewis i fod yn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.

Bydd eich Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn tynnu sylw at y materion sy’n bwysig i chi ac yn eu trafod ar lefel genedlaethol.

Cesglir barn pobl Ifanc eraill o bob cwr o’r wlad a chydweithio â’r rhai sydd â’r grym i wneud newidiadau.


Sut y byddwn yn gweithredu

Byddwn yn treulio pob tymor dwy flynedd o'r Senedd Ieuenctid Cymru yn:

Grymuso pobl ifanc Cymru i drafod a chodi ymwybyddiaeth ohonynt a’u trafod.

Gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru, cynrychioli dy farn a gweithredu ar y materion sy’n bwysig i ti.

Gweithio gyda pobl ifanc yng Nghymru, a rhannu beth rydym yn ei wneud am y materion a godaist.


Gweithio gyda Senedd Cymru

Rydym yn gweithio’n uniongyrchol gyda Senedd i wneud yn siŵr bod dy lais yn cael ei glywed gan y rhai sydd â phŵer i wneud newidiadau.