Yn ddiogel, wedi’u cynnwys a’u clywed: Crynodeb o'r Adroddiad

Mae pryder cynyddol wedi bod am droseddu a diogelwch mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, gydag adroddiadau newyddion yn awgrymu bod ymddygiad rhai disgyblion yn gwaethygu gan gynnwys enghreifftiau difrifol, o ymddygiad ymosodol a thrais, i ymddygiad aflonyddgar fel anufuddhau i reolau, a lefelau presenoldeb is.

 

Darllenwch yr adroddiad yma (PDF)

 

Canfyddiadau Allweddol

Cymerodd bron i 2,000 o bobl ifanc ran yn y gwaith, lle dywedasant wrthym:

  • Roedd 40% wedi gweld ymddygiad treisgar neu ddifrïol yn digwydd yn eu hysgol neu goleg, ond dim ond 19% oedd yn teimlo bod hynny'n broblem.
  • Mae pobl ifanc o grwpiau ymylol, fel y rhai ag anableddau, o wahanol gefndiroedd ethnig, o ardaloedd tlotach a phobl ifanc LHDTC+ yn teimlo'n llai diogel yn eu man dysgu, ac maent yn amlach yn darged cam-drin a bwlio.
  • Mae mwyafrif sylweddol o bobl ifanc yn meddwl bod ymddygiad aflonyddgar yn yr ystafell ddosbarth yn broblem.
  • Mae llai o bobl ifanc yn dweud eu bod yn cael trafferth gydag iechyd meddwl yn rheolaidd o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol, ac mae mwy yn ceisio help, ond mae stigma i gael mynediad at gymorth yn dal i fod yn broblem, a gellir gwella ansawdd y gefnogaeth.
  • Hoffai pobl ifanc ragor o gysylltiad ag athrawon. Mae athrawon a staff yn hanfodol bwysig, mae angen yr adnoddau a'r amser arnynt i allu cefnogi pobl ifanc yn effeithiol, oherwydd pan fyddant yn gwneud hynny mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr.
  • Nid oedd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn teimlo eu bod yn rhan o drafodaethau ar gynlluniau i gadw disgyblion yn ddiogel mewn ysgolion/coleg – ac yn fwy eang nid oeddent yn teimlo eu bod yn dylanwadu ar benderfyniadau a'r ffordd y mae eu haddysg yn cael ei ddarparu.
  • Mae angen i wersi fod yn fwy hwyliog a rhyngweithiol, ac yn gysylltiedig â materion sy'n berthnasol i bobl ifanc a'u cymuned i gadw diddordeb i bobl ifanc ac yn llai tebygol o amharu ar ddysgu.

 


Beth rydyn ni am ei weld yn newid?

Rydym yn galw am:

  1. Fel mater o flaenoriaeth, dylai Llywodraeth Cymru weithredu i wella profiadau pobl ifanc o grwpiau ymylol lle maent yn cael eu haddysg. Dylent adeiladu ar ein gwaith ac ymgysylltu ymhellach â'r grwpiau y tynnir sylw atynt yn yr adroddiad hwn i ganfod datrysiadau a fydd yn gwella eu diogelwch ac felly eu profiadau addysg.  
  2. Adolygu canllawiau ar gyfer ysgolion a cholegau ynghylch adrodd am ddigwyddiadau, a gweithdrefnau a systemau diogelwch i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu tynhau fel bo pobl ifanc yn cael eu cadw'n ddiogel.  
  3. Parhau ag ymdrechion i wella cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion a cholegau, gyda ffocws ar fynd i'r afael â stigma ynghylch cael cymorth, gwella ansawdd y cymorth sydd ar gael, a sicrhau bod mannau diogel ar gael i ymlacio a rheoli straen. Mae angen cynlluniau clir ar waith i gefnogi disgyblion yn y cyfnod cyn amseroedd arbennig o straen, fel cyfnodau arholiadau.
  4. Gwella llais disgyblion, sicrhau bod pobl ifanc ar draws pob ystod oedran yn chwarae rhan mewn llunio polisïau a phenderfyniadau ynghylch diogelwch, cynhwysiant, a'r amgylchedd addysgol cyffredinol.  
  5. Gwneud gwersi yn fwy diddorol, rhyngweithiol a chysylltiedig â materion sy'n bwysig i bobl ifanc, fel bod disgyblion yn teimlo'n fwy cysylltiedig a mwy o gymhelliant. 
  6. Sicrhau bod gan ysgolion a cholegau yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i alluogi rhagor o gyfleoedd i ddisgyblion gael mynediad at gymorth uniongyrchol 1-1 gan athrawon a staff, a darparu rhagor o weithgareddau cymdeithasol, a grwpiau cymdeithasol a fydd yn helpu ifeithrin perthnasoedd cadarnhaol rhwng disgyblion a staff 
  7. Darparu rhagor o wersi i ddisgyblion, a hyfforddiant i staff sy'n dangos canlyniadau troseddau difrifol, sut i gadw'n ddiogel o ran troseddu a diogelwch, perthnasoedd iach, ymddygiadau cadarnhaol, ac amrywiaeth a chynhwysiant er mwyn gwella'r profiad addysgol i bob person ifanc gan gynnwys y rhai o grwpiau ymylol. Mae angen meddwl am hyn fel rhaglen barhaus, nid ymarfer ticio blwch.
  8. Darparu cefnogaeth a hwyluso rhannu arfer da a chanllawiau i ysgolion a cholegau i wella cysondeb ledled y wlad mewn perthynas â chynhwysiant, rheoli ymddygiad disgyblion a bwlio ledled y wlad.

Lawrlwythiadau a rhagor o wybodaeth