Bydd etholiad Senedd Ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal rhwng 1 a 22 Tachwedd. Beth am hyrwyddo lleisiau pobl ifanc, a'u hawliau, drwy roi'r cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn etholiad ieuenctid cenedlaethol yng Nghymru yn ystod mis Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn?
Cofiwch y bydd angen i bobl ifanc 11-18 oed gofrestru i bleidleisio erbyn 12 Tachwedd i fod yn gymwys i bleidleisio.
Beth sy’n digwydd ar ddiwrnod etholiad Senedd Ieuenctid Cymru?
- Gallwch chi fod yn rhan o'r diwrnod hwn drwy addurno’ch ysgol/grŵp ieuenctid gyda’n deunyddiau marchnata gweledol. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru ar gyfer pecyn marchnata Senedd Ieuenctid Cymru, sy'n cynnwys deunyddiau defnyddiol.
- Beth am wahodd eich Aelod o'r Senedd lleol i'ch ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid i siarad am ei rôl, cefnogi'ch ymgeiswyr ifanc, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gan y bobl ifanc am wleidyddiaeth yng Nghymru?
- Trefnwch weithdy neu gyflwyniad gan dîm Senedd Ieuenctid Cymru i ddechrau'r diwrnod trwy cysylltu â 0300 200 6565 neu ebostio cysylltu@senedd.cymru.
- Agorwch eich ystafelloedd TG am y diwrnod i ganiatáu i bobl ifanc bleidleisio.